Studentships

Manylion llwybrau

Yn Adolygiad Meincnodi Rhyngwladol diweddar y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, barnwyd ma Daearyddiaeth Ddynol y Deyrnas Unedig oedd y gorau drwy’r byd i gyd, a dyma’r wyddor gymdeithasol gyntaf i gael y fath sgôr. Mae Daearyddiaeth Ddynol yn ddisgyblaeth sy’n pennu’r agenda, gydag arloesi, amrywiaeth a bywiogrwydd empirig a chysyniadol yn nodweddion amlwg.

Mae’r llwybr daearyddiaeth ddynol yn seiliedig ar gysylltiadau sefydliadol hirsefydlog rhwng Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ac Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe. Dangosodd pob o’r tair uned ansawdd eithriadol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Yn ogystal â gweledigaeth glir ar y cyd, mae’r llwybr yn darparu dyfnder ac ehangder arbenigedd. Mae’n ymgorffori cryfderau mewn:

  • daearyddiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol (gydag arbenigeddau ymchwil cyfryngau daearyddiaeth a symudedd);
  • daearyddiaeth economaidd;
  • daearyddiaeth hanesyddol;
  • daearyddiaeth wleidyddol;
  • daearyddiaeth poblogaeth a demograffeg (gydag arbenigedd mewn astudiaethau ymfudo);
  • daearyddiaeth feintiol a GIS;
  • ymchwil i’r gymdeithas a’r amgylchedd; a
  • daearyddiaeth drefol.

Mae arbenigeddau pellach mewn daearyddiaeth cefn gwlad, astudiaethau tirwedd a chynaliadwyedd amgylcheddol yn ychwanegu at yr arbenigedd sy’n arwain y byd y mae’r llwybr yn eu cwmpasu.

Mae myfyrwyr yn cael eu denu gan fywiogrwydd ein hamgylchedd ymchwil, sydd, drwy bwysleisio ymchwil wedi ei gyd-gynhyrchu, yn cynnwys partneriaid cydweithredol fel Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, yr Arolwg Ordnans, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Cyngor Mwslimiaid Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, ac ati, ac yn cysylltu â chymuned gwyddorau gymdeithasol eang drwy rwydwaith Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a chyfleusterau fel Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ESRC, sy’n werth £8 miliwn.

Ar gyfer myfyrwyr ar y llwybr ‘1+3’, mae modiwlau hyfforddiant pwnc-benodol yn dilyn maes llafur cyffredin sy’n arwain at gyrsiau preswyl sy’n cael eu haddysgu ar y cyd. Mae hyfforddiant pwnc-benodol a datblygu myfyrwyr yn parhau drwy gydol y ddoethuriaeth drwy raglen gydgysylltiedig o weithdai annibynnol. Mae’r pynciau yn cynnwys: defnyddio GIS; cyhoeddi a lledaenu gwybodaeth; cyflawni effaith; cyfleoedd ymchwil polisi; a pharatoi ar gyfer gyrfa academaidd.

Proffiliau myfyrwyr