Rhwydweithio

Fel un o fyfyrwyr PHD Cymru, rydych yn perthyn nid yn unig i’ch Prifysgol gartref ac i’ch adran yno, ond hefyd i gymuned ehangach PHD Cymru.

Bydd eich cynrychiolydd myfyrwyr PHD Cymru lleol yn gallu eich helpu chi i gysylltu â myfyrwyr eraill PHD Cymru yn eich sefydliad. Yn ogystal â chwrdd â myfyrwyr eraill PHD Cymru drwy ein digwyddiadau hyfforddi a chynhadledd flynyddol WISERD, mae gan ein holl fyfyrwyr broffil gyda disgrifiad byr o’u hymchwil yma ar ein gwefan. Mae hyn eich galluogi chi i gysylltu ag ymchwilwyr eraill yn eich maes, yn ogystal â galluogi pobl o bob rhan o’r byd a allai fod â diddordeb yn eich ymchwil i ddod o hyd i chi a chysylltu â chi.

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad drwy ein cylchlythyr e-bost, a thrwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar Twitter a Facebook.