Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol

Ar hyn o bryd rydym yn aros am ganllawiau ESRC ar argaeledd Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol ar gyfer 2024/2025.

Gweler y wybodaeth isod ar gystadleuaeth 2023/2024 at ddibenion cyfeirio.

Mae DTP Cymru’n gwahodd ceisiadau am hyd at saith Chymrodoriaeth Ôl-ddoethuriaeth a ariennir gan ESRC i ddechrau ym mis Hydref 2023. Mae’r cymrodoriaethau wedi’u hanelu at y rheiny ar ddechrau cam ôl-ddoethurol eu gyrfa, er mwyn cynnig y cyfle iddynt atgyfnerthu eu PhD drwy ddatblygu cyhoeddiadau, rhwydweithiau a’u sgiliau ymchwil a phroffesiynol.

Cymerwch olwg ar broffiliau ein cymrodyr ôl-ddoethuriaeth presennol.

Mae’r Cymrodoriaethau’n para blwyddyn (neu gyfnod cyfatebol rhan amser) a cheir cyflog. Gallant gynnwys rhywfaint o weithgarwch ymchwil newydd, ond eu prif bwrpas yw atgyfnerthu eich proffil ymchwil yn fuan ar ôl cwblhau eich PhD yn llwyddiannus.

Mae gwybodaeth lawn ar gael ym manylion yr alwad. Mae’r ESRC hefyd wedi paratoi set o atebion i gwestiynau cyffredin.

Gwneud Cais am gymrodoriaeth

Ym mis Ionawr 2022, cynhaliodd y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) sesiwn wybodaeth ar-lein ar gyfer y rhai sy’n ystyried gwneud cais am Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol gan DTP Cymru.  Yn y recordiad isod o’r sesiwn, mae Cyfarwyddwr DTP Cymru, yr Athro John Harrington, yn amlinellu’r cynllun a sut i fynd ati i wneud cais.  Mae’r fideo hefyd yn dangos Cymrodorion Ôl-ddoethurol presennol a blaenorol yn sôn am eu profiadau eu hunain o wneud cais am Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol a mentor academaidd yn sôn am ei rôl.

Mae gwefan yr ESRC yn cynnwys adnoddau ar baratoi cynigion ymchwil a gwybodaeth am foeseg, effaith ymchwil a datblygu prosiectau cydweithredol: https://www.ukri.org/councils/esrc/guidance-for-applicants/

Mae pecyn cymorth effaith yr ESRC hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer datblygu strategaethau effaith: https://www.ukri.org/councils/esrc/impact-toolkit-for-economic-and-social-sciences/

Sut i Wneud Cais

Fel y disgrifiwyd yn yr alwad, bydd angen i chi nodi mentor a fydd yn uwch gydweithiwr yn y sefydliad ymchwil sy’n lletya’r gymrodoriaeth. Eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer nodi eich mentor ddylai fod cynullydd y llwybr sy’n cyd-fynd orau â’ch cynnig am gymrodoriaeth. Gallwch weld rhestr o’r llwybrau a cynullwyr yma. Dylech gysylltu â chynullydd y llwybr perthnasol cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach nag 1 Chwefror 2023.

Dylech lenwi’r ffurflen gais a’i chyflwyno gyda’r atodiadau gorfodol penodedig.  Gofynnir i ymgeiswyr hefyd gyflwyno’r ffurflen monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae hyn yn cael ei dal yn gyfrinachol a’i chasglu ar gyfer adrodd ystadegau i’r ESRC yn unig. Dylid cyflwyno ceisiadau i fellowships@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar 23 Mawrth 2023.

Mae’r DTP yn cynnal sesiwn ar-lein fyw awr ar ‘Ymgeisio am Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol DTP ESRC Cymru’. Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn awr am ddim hon erbyn 5 Ionawr 2022.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant

Mae’r DTP yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth ryweddol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol

Cyfweliadau

Rydym yn disgwyl lefel uchel o gystadleuaeth ar gyfer y cymrodoriaethau hyn, ac mae’r broses ddethol yn cynnwys sawl cam. Ar ôl y dyddiad cau ar 23 Mawrth, bydd pob un o’n 20 llwybr yn cyflwyno dau gais i’w hystyried gan Grŵp Rheoli’r DTP. Gwahoddir ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer i gyfweliad ym mis Mai 2023. Bydd y Cymrodyr Ôl-ddoethurol llwyddiannus yn dechrau ar eu gwaith ym mis Hydref 2023.

Os oes gennych chi gwestiynau nad ydynt wedi eu hateb gan y cwestiynau cyffredin, cysylltwch â fellowships@walesdtp.ac.uk.