Bydd cystadleuaeth Ysgoloriaeth Gydweithredol Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn cael ei lansio ganol mis Mawrth 2024. Gwahoddir darpar fyfyrwyr sydd am wneud cais am ysgoloriaeth ESRC i ymgymryd â phrosiect ymchwil PhD cydweithredol wedi’i ddiffinio ymlaen llaw (gan ddechrau yn y flwyddyn academaidd 2024/25) i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, sef 19 Ebrill 2024. Sylwer: efallai y bydd gan sefydliadau ddyddiadau cau cynharach, bydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gydweithredol YGGCC. Bydd y prosiectau cydweithredol sydd ar gael yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon tua canol mis Mawrth 2024.
Fel rhan o’r asesiad o ymgeiswyr, mae gan YGGCC ddiddordeb mawr ynoch chi fel unigolyn cyfan. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag edrych ar eich cyflawniadau academaidd yn unig (er enghraifft, nid oes angen gradd dosbarth cyntaf er mwyn cael eich asesu fel myfyriwr PhD rhagorol ac i dderbyn cyllid), byddwn yn ystyried yr hyn y gallwch ei gynnig i’r PhD drwy eich gwaith a’ch profiadau bywyd hefyd (dylid manylu ar y rhain yn eich cais yn eich llythyr eglurhaol a’ch CV).
Mae’r Gystadleuaeth Gydweithredol yn cael ei chynhyrchu gan oruchwyliwr; rydych chi’n dewis o blith catalog presennol o brosiectau. Mae hyn yn wahanol i’r Gystadleuaeth Gyffredinol. Mae’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn cael ei chynhyrchu gan yr ymgeisydd; mae’n rhaid i chi gyflwyno eich prosiect PhD eich hun.
Amserlen y Gystadleuaeth Gydweithredol
Canol Mawrth 2024 | Ceisiadau Cystadleuaeth Gydweithredol yn agor Bydd y prosiectau sydd ar gael yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ganol mis Mawrth. |
19/04/2024 | Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais |
24/05/2024 | Anfonir ceisiadau ar y rhestr fer at YGGCC Mae ceisiadau gan fyfyrwyr ar gyfer prosiectau penodol yn cael eu hadolygu gan banel o Is-grŵp Cystadleuaeth Bwrdd Rheoli YGGCC. |
28/05/2024 | Cytuno ar y dyfarniadau |
21/06/2024 | Cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn |
Mehefin 2024 | Prosesu cynigion ffurfiol |
Mehefin 2024 | Cyhoeddi llythyr ariannu ffurfiol |
Sut i wneud Cais
Cam 1 – Dewis prosiect
Bydd y prosiectau sydd ar gael yn cael eu hysbysebu isod, ni fydd prosiectau Cydweithredol ar gael gan bob prifysgol a llwybr yn YGGCC. Cynghorir chi i gysylltu â phrif oruchwyliwr y prosiect y mae gennych ddiddordeb ynddo i fynegi eich diddordeb.
Cam 2 – Gwneud cais i’r sefydliad o’ch dewis
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prosiect, gwnewch gais ffurfiol gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau yn yr hysbyseb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a dogfennau angenrheidiol yn eich cais. Rhaid anfon pob dogfen erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn.
Cam 3 – Adolygu’r cais
Caiff eich cais ei adolygu gan yr adran/prifysgol lle mae eich darpar oruchwyliwr wedi’i leoli. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw benderfynu ar gynnig lle PhD i chi.
Cam 4 – Cyfweliad ac enwebiad
Os ydych yn llwyddiannus ac yn cyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfweliad gan banel llwybr. Os bydd eich cyfweliad yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei enwebu gan yr Arweinydd Llwybr i Fwrdd Rheoli YGGCC i’w adolygu. Bydd eich darpar oruchwyliwr hefyd yn cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol i asesu eich profiad a’ch gofynion hyfforddi. Yna bydd YGGCC yn cysylltu â chi i gadarnhau eu bod wedi derbyn eich cais.
Cam 5 – Canlyniad
Yn dilyn adolygiad gan is-grŵp cystadleuaeth arbennig y Bwrdd Rheoli, bydd YGGCC wedyn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr enwebedig i roi eu canlyniadau. Os byddwch yn llwyddiannus, anfonir cadarnhad o lythyr ariannu atoch y bydd angen i chi ei dderbyn neu ei wrthod o fewn pythefnos. Unwaith y byddwch wedi derbyn y cynnig, bydd gofyn i chi fynychu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i gwblhau eich Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn.
Cam 6 – Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cwrdd ag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC a fydd yn defnyddio’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol i helpu i adolygu eu profiad a’u hanghenion hyfforddi yn fanwl, gan gyfateb hyn â darpariaeth hyfforddi yn YGGCC. Bydd hyn yn caniatáu i’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn gael ei gwblhau, gan nodi hyfforddiant gofynnol a sefydlu hyd y dyfarniad.
Cam 7 – Cynnig ffurfiol
Unwaith y bydd hyd y dyfarniad wedi’i gadarnhau, byddwch wedyn yn cael llythyr dyfarnu ffurfiol a llythyr ariannu gan y sefydliad rydych wedi gwneud cais iddo.
Dogfennau sydd eu hangen ar gyfer y cais
Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu’r dogfennau canlynol i gefnogi eu cais. Mae angen cyflwyno’r dogfennau hyn erbyn y dyddiad cau ar 19 Ebrill 2024. Sylwer: efallai y bydd gan sefydliadau ddyddiadau cau cynharach, bydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gydweithredol YGGCC. Os bydd unrhyw ddogfen ar goll o’ch cais, bydd yn cael ei ystyried fel cais anghyflawn ac ni fydd yn gallu symud ymlaen i’r cam rhestr fer.
1 – Llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy dudalen)
Rhaid i’r llythyr eglurhaol gynnwys y pwyntiau bwled canlynol fel is-benawdau:
- Rhowch enw’r ysgoloriaeth gydweithredol y gwneir cais amdani a nodwch eich rhesymau a’ch cymhelliant dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol XXXX, a’r llwybr academaidd XXXX.
- Beth yw eich dealltwriaeth a’ch disgwyliadau o astudio doethuriaeth?
- Rhowch fanylion am eich diddordebau academaidd cyffredinol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â’ch maes ymchwil arfaethedig.
- Gan sôn am eich cefndir eich hun (gan gynnwys eich profiadau bywyd, taith i/drwy brifysgol, profiadau gwaith neu wirfoddoli) rhowch grynodeb o pam eich bod yn barod i ymgymryd â PhD nawr a sut byddwch yn ffynnu o ganlyniad i gyllid PhD. Efallai y byddwch am gynnwys, er enghraifft, heriau personol rydych wedi’u goresgyn neu gyflawniadau rydych yn falch ohonynt yn eich gwaith, eich astudiaethau neu brofiadau bywyd a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn rhaglen PhD a gwneud cyfraniad cadarnhaol i YGGCC. Gallai heriau gynnwys, ymhlith eraill, nodweddion gwarchodedig, statws economaidd-gymdeithasol a bod yn ddarpar fyfyriwr cenhedlaeth gyntaf i fynd i’r brifysgol neu â phrofiad o ofal.
- Gan fyfyrio ar eich cefndir a/neu ddull arfaethedig o astudio PhD a’r cyfleoedd y bydd yn eu cyflwyno, sut byddwch yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn y gymuned PhD?
2 – CV academaidd
(dim mwy na dwy dudalen)
3 – Cynnig ymchwil
Ar gyfer ysgoloriaethau cydweithredol, dylai’r cynnig ymhelaethu’n uniongyrchol ar y disgrifiad amlinellol a ddarparwyd. Ddylai’r cynnig ddim bod yn fwy na 1,000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau llyfryddiaethol. Awgrymwn eich bod yn defnyddio’r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil:
- Teitl, amcanion a phwrpas yr ymchwil;
- Trosolwg byr o’r llenyddiaeth academaidd sy’n berthnasol i’ch maes;
- Dyluniad/dulliau arfaethedig;
- Cyfraniadau academaidd eich ymchwil.
- Cyfeiriadau Llyfryddiaethol
4 – Dau eirda academaidd neu broffesiynol
Rhaid i’r ymgeiswyr ofyn i’r canolwyr eu hunain, a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Rhaid i’r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
5 – Trawsgrifiadau a Thystysgrifau Gradd
(gan gynnwys cyfieithiadau os yw’n berthnasol)
6 – Os yw’n berthnasol, prawf o Gymhwysedd Iaith Saesneg
(gweler gofynion sefydliadol ar gyfer mynediad)