Interniaeth gyda Llywodraeth Cymru

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10 Tachwedd 2023

Mae PHD Cymru yn falch o gynnig pedwar cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, ar gyfer gweithio ar brosiectau penodol sy’n ymdrin ag ystod o bynciau fel y’i nodir yn y disgrifiadau prosiect isod.

Mae’r interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a ariennir gan PHD ESRC Cymru (heblaw am y rheiny sydd o fewn tri mis cyntaf neu olaf eu cyfnod o fod yn fyfyriwr).  Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n dechrau yn ystod mis Ionawr 2024 am gyfnod o 3-6 mis (ar sail amser llawn neu am gyfnod cyfwerth â rhan-amser).  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael estyniad cyfwerth â hyd yr interniaeth ar gyfer eu PhD.

Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfleoedd i greu effaith drwy gyfrannu at waith y llywodraeth, y cyfle i feithrin perthnasau y tu hwnt i’r byd academaidd, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn amgylchedd polisi.

Mae disgrifiadau llawn o’r prosiect ar gael yn y dogfennau atodedig:

Disgrifiadau Interniaeth

Gwella Llywodraeth Leol 
Hyd:  6 mis
Prosiect: Bydd y prosiect yn cynnwys cynnal adolygiad o’r adroddiadau hunanasesu statudol newydd a gynhelir gan awdurdodau lleol Cymru, ynghyd â chyfres o gyfweliadau. Y nod fydd ystyried a yw’r broses o gynnal yr hunanasesiadau yn annog diwylliant o welliant parhaus o fewn y cyrff hynny.
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS). 

Dadansoddi data gwirfoddoli
Hyd:  3 mis
Prosiect: Bydd y interniaeth hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddio data hydredol o safbwynt Cymru o Understanding Society. I archwilio tueddiadau gwirfoddoli hirdymor ymhlith nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig (e.e. rhyw, ethnigrwydd ac oedran).
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn tîm Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol sydd, fel rhan o Is-adran EPCES, yn darparu cefnogaeth ddadansoddol i faes polisi Cymunedau a’r Trydydd Sector. 

Dadansoddi’r defnydd o ofal plant dros amser gan ddefnyddio data gan Understanding Society
Hyd:  3 mis
Prosiect: Bydd y interniaeth hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddio data hydredol o safbwynt Cymru o Understanding Society. I archwilio tueddiadau gwirfoddoli hirdymor ymhlith nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig (e.e. rhyw, ethnigrwydd ac oedran).
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn tîm Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol sydd, fel rhan o Is-adran EPCES, yn darparu cefnogaeth ddadansoddol i faes polisi Cymunedau a’r Trydydd Sector. 

Dadansoddi dulliau rhianta dros amser gan ddefnyddio set ddata Beichiogrwydd a Phlentyndod Cynnar (PEACH) gan Understanding Society
Hyd:  3 mis
Prosiect: Ffocws y prosiect yw defnyddio data eilaidd gan Understanding Society i ddarparu tystiolaeth i gefnogi datblygiad parhaus y polisi blynyddoedd cynnar.
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn tîm Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol sydd, fel rhan o Is-adran EPCES, yn darparu cefnogaeth ddadansoddol i faes polisi Cymunedau a’r Trydydd Sector. 

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar y dyddiad cau.

Interniaeth Amgueddfa Cymru

Dyddiad Cau: Dydd Llun 3 Gorffennaf 2023

Mae’n bleser gan PHD Cymru gynnig cyfle interniaeth gydag Amgueddfa Cymru, i weithio ar brosiect i ddatblygu “Cynllun Gweithredu Sgiliau Crefftau Treftadaeth”. Ar hyn o bryd nid oes polisi cynhwysfawr ar gyfer cadw neu ailsefydlu sgiliau crefft treftadaeth yn Amgueddfa Cymru. Mae risg o golli sgiliau yn fuan oherwydd ymddeoliad staff, ac angen datblygu darpariaeth arloesol i sicrhau bod y sgiliau gwerthfawr hyn yn cael eu trosglwyddo.

Mae hwn yn gyfle i ymchwilydd PhD yn y gwyddorau cymdeithasol sydd â phrofiad o gynnal adolygiadau llenyddiaeth, cyfweliadau a/neu weithdai a diddordeb proffesiynol neu bersonol yn y sector treftadaeth.

Yn y prosiect ymchwil hwn, bydd myfyriwr yn cael y cyfle i gymhwyso ei set sgiliau i:

  1. ddadansoddi mentrau blaenllaw yn y sector
  2. gweithio ar y cyd â staff a chrefftwyr Amgueddfa Cymru i ddatblygu a deall yn well y ddarpariaeth hyfforddi bresennol i ddatblygu polisi a “Chynllun Gweithredu Sgiliau Crefftau Treftadaeth”.

Yn fewnol, bydd y Cynllun Gweithredu hwn yn adeiladu ar bolisïau, arferion a chynlluniau olyniaeth sy’n bodoli eisoes i wella gwaith Amgueddfa Cymru, a chreu gwahaniaeth, ar draws amrywiaeth o grefftau treftadaeth Cymru. Yn allanol, bydd y gwaith hwn yn cael ei ledaenu drwy rwydweithiau fel y Gymdeithas Crefftau Treftadaeth ac yn llywio arferion treftadaeth yng Nghymru, y DU ac Ewrop.

Mae’r interniaeth hon ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan PHD Cymru ESRC (heblaw am y rheini y mae eu hysgoloriaeth wedi dechrau yn ystod y tri mis diwethaf neu’n dod i ben ymhen tri mis). Rhagwelir y bydd yr interniaeth yn cychwyn ddydd Llun 1 Hydfref 2023 am gyfnod o 3 mis yn amser llawn neu am gyfnod cyfatebol yn rhan-amser.

Ceir disgrifiad llawn o’r prosiect yn y ddogfen

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar y dyddiad cau.

Interniaeth Amgueddfa Cymru

Poster with images of food and text: "GWYL FWYD
AMGUEDDFA CYMRU
FOOD FESTIVAL"

Dyddiad Cau: Dydd Llun 12 Mehefin 2023

Mae’n bleser gan PHD Cymru gynnig cyfle am interniaeth yn Amgueddfa Cymru, gan weithio ar brosiect i wella cynaliadwyedd gŵyl fwyd flynyddol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a digwyddiadau eraill.

Mae’r interniaeth hon ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan PHD Cymru ESRC (heblaw am y rheini y mae eu hysgoloriaeth wedi dechrau yn ystod y tri mis diwethaf neu’n dod i ben ymhen tri mis).  Rhagwelir y bydd yr interniaeth yn cychwyn ddydd Llun 3 Gorffennaf 2023 am gyfnod o 3 mis yn amser llawn neu am gyfnod cyfatebol yn rhan-amser.

Bydd yr interniaeth yn datblygu polisi adolygu sgiliau ac arfer gorau i wneud argymhellion ar gyfer digwyddiadau Amgueddfa Cymru yn y dyfodol a datblygu dealltwriaeth o sut i gymhwyso sgiliau ymchwil mewn lleoliad ymarferol.

Ceir disgrifiad llawn o’r prosiect yn y ddogfen Datblygu cynaliadwyedd Gŵyl Fwyd 2023 Amgueddfa Cymru.

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar y dyddiad cau.

 

 

 

Interniaethau gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 7 Gorffennaf 2023

Mae Cynllun Interniaeth WCPP yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a ariennir gan DTP ESRC Cymru dreulio tri mis yn y Ganolfan i gymhwyso a datblygu eu sgiliau a’u technegau ymchwil i faterion yn y byd go iawn sydd â blaenoriaeth uchel. Mae’r interniaethau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol o wneud ymchwil mewn sefydliad sy’n gweithio ar y rhyngwyneb rhwng ymchwil a llunio polisïau.

Mae dau fath o interniaethau ar gael:

  1. Interniaeth sy’n cefnogi gwaith WCPP gyda Llywodraeth Cymru a/neu wasanaethau cyhoeddus.
  2. Interniaeth sy’n archwilio rôl tystiolaeth wrth lunio polisïau.

Fel arall, gall myfyrwyr gynnig pwnc o’u dewis eu hunain, gan gymhwyso eu diddordebau PhD a’u harbenigedd i faes polisi y mae WCPP wedi gwneud gwaith ynddo.

Dyddiad dechrau’r interniaeth a ragwelir yw Medi 2023.

Mae rhagor o wybodaoeth ar gael yn y dogfen wedi’u hatodi, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer goruchwyliwr pob interniaeth.

Sylwer bod yr interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan DTP ESRC Cymru heblaw am y rheini sydd yn nhri mis cyntaf neu olaf eu cyfnod fel myfyriwr.  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn estyniad 3 mis wedi’i ariannu’n llawn ar eu PhD. Os oes diddordeb gennych, dylech drafod y cyfle hwn â’ch goruchwyliwr cyn cyflwyno cais.

Cyflwynwch eich llythyr cais ynghyd â’ch CV i enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn hanner dydd y dyddiad cau.

Cynhadledd Astudiaethau Ardal Byd-eang sy’n Seiliedig ar Iaith 2022

Cynhaliwyd Cynhadledd Astudiaethau Ardal Byd-eang sy’n Seiliedig ar Iaith 2022 ar 6-7 Mehefin yng Nghaerdydd. Digwyddiad a drefnwyd gan yr Ysgol Ieithoedd Modern, gyda chymorth yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol oedd hwn, a daeth â myfyrwyr doethurol o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) Cymru, DTP Arfordir De Lloegr ac Ysgol Astudiaethau Ôl-raddedig Canolbarth Lloegr at ei gilydd.  Trwy’r gynhadledd cafodd myfyrwyr gwrdd ag academyddion a chanddynt arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn amrywiaeth o fethodolegau ymchwil. Mae hyn ar draws ystod enfawr o bynciau rhyngddisgyblaethol gan gynnwys astudiaethau Affricanaidd, Ewropeaidd, Ewrasiaidd, Cefnfor yr India, Gogledd America, Rwseg a Tsieinëeg.

Yn ogystal ag arddangos astudiaethau ardal, rhoddodd y digwyddiad le i ymchwilwyr doethurol rwydweithio â’i gilydd, datblygu cysylltiadau parhaol a meithrin y garfan astudiaethau ardal fel uned gyfan.  Cyflwynodd y cyfranogwyr bapurau wedi’u harwain gan gynnwys a chan ddulliau, a bu iddynt gynnig adolygu gan gyd-fyfyrwyr, a derbyn adborth adeiladol, ac fe glywon nhw gan fyfyrwyr ôl-ddoethurol hefyd.  Rhoddodd y feddygfa ymchwil a’r caffi dulliau y lle i drafod yr heriau methodolegol a’r heriau eraill mae ymchwilwyr yn eu hwynebu.

Blog Dulliau (Methods) — Cyflwyniad i’r Golygydd Newydd

Top of a typewriter that says "writer's blog..."

Helo! Catrin ydw i, a byddaf yn cymryd yr awenau’n Olygydd blog Dulliau.

Dwi’n fyfyriwr PhD blwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Dwi’n geek amgueddfeydd a threftadaeth gyda chefndir academaidd mewn Anthropoleg Gymdeithasol. Mae fy ymchwil yn ystyried sut gall adeiladau treftadaeth gyfrannu at ddinasyddiaeth weithredol yng Nghymru.

Yn unol â’r stereoteip Cymraeg, dwi’n canu mewn côr yn fy amser hamdden. Dwi hefyd yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth, gan gynnwys rhywfaint sy’n seiliedig ar ddata ymchwil i gyfleu canfyddiadau i’r rhai fu’n cymryd rhan.  Dwi wedi bod yn dywysydd teithiau ac yn hwylusydd gweithdai mewn oriel gelf. Felly, er fy mod wrth fy modd â dulliau creadigol, dwi’n edrych ymlaen at glywed am eich ymchwil, a allai fod yn wahanol iawn i fy un i. 

Mae gen i syniadau diddorol yr hoffwn roi cynnig arnynt ar gyfer y blog, ac mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu syniadau eich hun. Dwi hefyd yn siarad Cymraeg. Diolch!

Dolen i broffil DTP ESRC: https://walesdtp.ac.uk/profile/greaves-catrin/

Dolen i Twitter: https://twitter.com/catrin_mari91/status/1529380393450864640

Dolen i broffil LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/catrin-greaves-401265240/

Adroddiad Katharine Young yn fyw ar wefan Llywodraeth Cymru

Yn ddiweddar, cwblhaodd Katharine Young interniaeth yn Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, lluniodd adroddiad o’r enw ‘Addysg cyfrwng Cymraeg yn sgîl trochi hwyr: mapio’r ddarpariaeth yng Nghymru‘ (cliciwch ar y teitl glas i weld yr adroddiad) sydd bellach ar gael ar wefan y Llywodraeth.

Crynodeb Katharine o’r adroddiad:

Mae addysg drochi hwyr yn ddarpariaeth sydd yn caniatáu i hwyrddyfodiaid gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfnodau hwyrach na’r Cyfnod Sylfaen. Mae darpariaeth o’r fath wedi bodoli yng Nghymru ers nifer o ddegawdau, ac mewn nifer o ffyrdd gwahanol (drwy ganolfannau dynodedig, unedau iaith, ac o fewn ysgolion). Nod Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth Cymraeg 2050 yw sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif. Mae’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn rhan allweddol o wireddu’r nod hwn, oherwydd ei bod yn cynyddu’r nifer o bwyntiau mynediad at y sector cyfrwng Cymraeg a dwyieithog drwy gydol gyrfa addysgol y disgybl.

Nod yr adroddiad hwn oedd llunio darlun o’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr sydd yn bodoli mewn rhai awdurdodau addysg lleol, a deall rhai o’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn codi wrth i’r ddarpariaeth gael ei chynllunio a’i rhoi ar waith.

Sut i ddilyn ymchwil Katharine:

Os hoffech chi ddarllen rhagor o waith Katharine gallwch chi weld ei Phroffil Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) Cymru drwy law’r ESRC gan glicio yma, a gallwch chi ddilyn Katharine ar Twitter gan ddefnyddio: @KatharineSYoung

PUM AWGRYM I WNEUD EICH CAIS AM INTERNIAETH DOETHURIAETH YN LLWYDDIANT

Croeso i’r cyntaf o dri phostiad blog sydd wedi’u rhannu’n anffurfiol yn: “yr holl bethau yr hoffwn i fod wedi eu gwybod cyn i mi wneud cais am fy interniaeth doethuriaeth”. Mae’r cofnodion byr hyn wedi’u bwriadu ar gyfer y rhai ohonoch nad ydych erioed wedi clywed am wneud interniaeth yn ystod eich doethuriaeth, i’r rhai a allai fod hyd yn oed wedi dechrau gwneud cais!

Strwythur y gyfres:

  1. Awgrymiadau i wneud eich cais am interniaeth yn llwyddiant!
  2. Sut y gallai interniaeth doethuriaeth fod o fudd i chi!
  3. Myfyrdodau i gloi: h.y. = “a fyddwn i’n argymell gwneud interniaeth yn ystod eich doethuriaeth?” 

Helô, Jodie ydw i, ymchwilydd doethuriaeth trydedd flwyddyn (aaah!) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy nhraethawd ymchwil yn ymchwilio i effaith a niwed/niweidiau iaith casineb wrth-LGBTI+ ar-lein.

Roedd fy interniaeth yn swydd tri mis a ariannwyd gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru yn Llywodraeth Cymru (Ionawr–Ebrill 2021), a rhoddwyd y teitl canlynol ar fy mhrosiect: ‘Defnyddio astudiaeth yr Understanding Society i edrych ar newidiadau cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19’.

Nawr, efallai eich bod wedi sylwi nad yw’n ymddangos bod y prosiect hwn yn gysylltiedig â phwnc fy noethuriaeth – a byddech yn llygad eich lle – nid oedd. Gall hyn fod yn fwy cyffredin nag yr ydych yn ei feddwl ac mae’n cyflwyno fy awgrym cyntaf i feddwl am sut i sicrhau bod eich cais yn llwyddiant … 

  1. Meddyliwch beth yw eich cymhellion CHI ar gyfer gwneud cais

Bydd eich cymhellion yn bersonol – rwy’n deall hynny, ond pan fyddwch yn gwneud cais am interniaeth, bydd yn rhaid i chi ddarbwyllo pobl eraill bod y rhain yn rhesymau perthnasol i oedi eich doethuriaeth. Y bobl bwysicaf yn ôl pob tebyg fydd eich goruchwylwyr, gan fod angen iddynt ‘gymeradwyo’ eich absenoldeb pan fydd eich cais yn llwyddiannus!

Felly, byddwn yn argymell yn fawr i chi siarad drwy’r cyfle gyda hwy.

Pan glywais am fy mhrosiect am y tro cyntaf gan ddarlithydd, roeddwn wedi pontio’n ddiweddar i ail flwyddyn fy noethuriaeth. Ar y pryd, roeddwn yn ei chael hi’n her astudio ar wahân yng nghanol y pandemig ac roedd trafod y rhesymau pam yr oeddwn am oedi fy mhrosiect doethuriaeth yn fuddiol iawn i mi. Helpodd fy ngoruchwylwyr i mi fynegi fy nghymhellion (a oedd mor bwysig ar gyfer fy ffurflen gais), yn ogystal â chodi rhai pethau hollbwysig nad oeddwn hyd yn oed wedi meddwl amdanynt!

Er enghraifft, a ydych chi ar fin dechrau ysgrifennu eich darn dulliau, ar ôl misoedd o gasglu data – ai dyma’r amser y dylech fod yn meddwl am oedi eich doethuriaeth mewn gwirionedd? A yw’r interniaeth yn gysylltiedig â’ch pwnc? Beth ydych chi’n meddwl y byddech chi’n ei ennill o oedi eich doethuriaeth?

Yr hyn rwy’n ceisio’i gyfleu yma yn y pen draw yw … pa werth ydych chi’n disgwyl i’r interniaeth ei ychwanegu?

I mi, nid oedd y gwerth yn gysylltiedig yn uniongyrchol â phwnc fy noethuriaeth … ond mwy y byddwn yn cael profiad gwerthfawr mewn ymchwil gymdeithasol mewn sector arall; roeddwn yn awyddus i ddysgu sut y cynhaliwyd ymchwil mewn lleoliad diwydiant yn hytrach nag un academaidd. Roeddwn hefyd am ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu y tu allan i’r byd academaidd, gan ddysgu sgiliau iaith ac ysgrifennu adroddiadau priodol i bolisi. Yn olaf, o ystyried fy nghariad at ddata, roeddwn yn awyddus i ddatblygu fy sgiliau dadansoddol a meithrin sgiliau cyflwyno priodol ar gyfer lleoliad busnes.

Y pwynt yw – aseswch y manteision o oedi cryn dipyn o amser allan o’ch doethuriaeth. 

  • Rhowch ddigon o amser ar gyfer y broses ymgeisio 

Nid yw’n broses gyflym!

I roi syniad i chi, rwyf wedi nodi rhai pwyntiau allweddol o fy mhroses ymgeisio:

Hefyd – fel nodyn ategol – yn y rhan fwyaf o achosion, ni allwch wneud cais am interniaeth yn ystod tri mis cyntaf eich rhaglen na’r tri mis olaf. Os ydych yn awyddus i wneud interniaeth, gwnewch yn siŵr eich bod wedi meddwl am yr amser iawn i wneud cais ac wedi gwirio unrhyw ganllawiau y gallai fod yn rhaid i chi gadw atynt!

  1. Cynlluniwch, drafftiwch ac ailddrafftiwch eich ffurflen gais!

Dyma oedd fy nghamau yn ystod fy mhroses ymgeisio:

  1. Paratowch ar gyfer eich cyfweliad

Ar ôl y trafodaethau arferol am y lleoliad, eich sgiliau/profiad ac ati, mae adran i chi ofyn cwestiynau! Dyma’ch cyfle i ofyn cymaint o gwestiynau perthnasol ag y gallwch, fel y gallwch geisio darganfod ai’r lleoliad arfaethedig yw’r dewis iawn i chi.

Fy mhrif gwestiynau oedd a fyddwn yn gallu cysylltu â staff eraill y tu allan i’m ‘tîm’ yn Llywodraeth Cymru; beth oedd canlyniadau disgwyliedig fy mhrosiect; sut olwg fyddai ar fy niwrnod gwaith (efallai y bydd amser hyblyg yn dda os ydych yn aml yn defnyddio’r hyblygrwydd y mae’r ddoethuriaeth yn ei gynnig); ac yn bwysicaf oll gofynnais sut y byddai gweithio ar-lein yn gweithio. Gan nad oeddwn yn gallu mynd i mewn i adeilad Llywodraeth Cymru oherwydd y pandemig, trafodais gyda hwy sut y byddwn yn cael fy nghefnogi, ac a fyddent yn rhoi hyfforddiant/offer i mi. 

  • Ymchwiliwch i gynhaliwr yr interniaeth!

Nid yw ymchwil byth yn dod i ben! Defnyddiais wefan Llywodraeth Cymru a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gofynnais i fyfyrwyr eraill am eu profiadau interniaeth (y da a’r drwg), i gasglu gwybodaeth am yr hyn y gallai fy interniaeth ei olygu ac ethos y gweithle – roedd LinkedIn yn ddefnyddiol iawn i mi mewn gwirionedd! Bydd unrhyw beth y gallwch ei ddysgu cyn i chi ddechrau yn fuddiol!

Rwy’n gobeithio bod y postiad hwn wedi dechrau gwneud i chi feddwl p’un ai interniaeth doethuriaeth sy’n gweddu orau i chi a sut i sicrhau bod eich cais yn llwyddiant!

Am y tro, cadwch lygad am y postiad nesaf, a fydd yn ymdrin â ‘Sut y gallai interniaeth doethuriaeth fod o fudd i chi!’

Jodie

Os hoffech gysylltu â mi i ofyn unrhyw beth am fy mhrofiad interniaeth neu hyd yn oed i sgwrsio am fywyd/ymchwil ddoethurol – gallwch ddod o hyd i’m manylion cyswllt isod.

E-bost – lukerjr@caerdydd.ac.uk

Twitter academaidd – @jodie_luker

Instagram academaidd – @phd_hate_harms

Myfyrdodau ar Interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Yn y blog hwn, mae Aimee Morseyn trafod ymgymryd ag interniaeth yn ystod eich PhD.

Dod o hyd i interniaeth

Mae nifer o interniaethau ar gael gyda sefydliadau amrywiol. Mae’r DTP yn gweithio’n benodol mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi datblygu cyfleoedd interniaeth ac mae UKRI yn rhedeg rhaglenni interniaeth mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y DU.

Hysbysebir interniaethau yng nghylchlythyr misol y DTP, felly cadwch lygad ar yr adran os ydych yn awyddus i wneud cais am un. Dyma sut y cefais wybod am fy interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, felly mae’n bendant yn werth ei ddarllen!; Gallwch hefyd siarad â’ch goruchwylwyr ynghylch interniaethau yn eich maes ymchwil. Soniodd fy goruchwylwyr am gydweithwyr mewn sefydliadau eraill sy’n rhedeg interniaethau, er eu bod bob amser yn fy annog i ddewis yr un iawn i mi, ar adeg a oedd yn gweithio i mi.

Sut roeddwn i’n gwybod bod yr interniaeth yn addas i mi

Yn bennaf oll, siaradais â’m goruchwylwyr. Buom yn trafod sut y byddwn yn gwneud i’r interniaeth weithio orau i mi. Dewisais gynnal prosiect mewn maes tebyg i’m pwnc ymchwil PhD; fodd bynnag, efallai y bydd yn bosibl dewis rhywbeth mewn maes gwahanol a allai barhau i ategu eich damcaniaethau a/neu fethodolegau PhD.

Roedd yn rhaid i mi sicrhau na fyddai’r interniaeth yn gwrthdaro â’m hymrwymiadau gwaith maes PhD, ac yn teimlo mai tri mis fyddai’r hyd gorau. Syrthiodd fy interniaeth o fewn cyfnod clo 2021; fodd bynnag, nid oedd hyn yn effeithio ar fy mhrofiad ac fe’m hamgylchynwyd (bron) gan dîm o gydweithwyr cefnogol a oedd bob amser wrth law i ateb cwestiynau a rhannu eu barn am fy ngwaith. Roedd cael prosiect byr, diddorol i ganolbwyntio arno drwy gydol y cyfnod hwnnw wedi helpu fy ymagwedd gyffredinol at fy PhD; roedd cyflwyno adroddiad wedi’i gwblhau yn caniatáu i mi ddychwelyd at fy ngwaith PhD yn hyderus y gallwn oresgyn y rhwystrau a dechrau’r 18 mis diwethaf i gwblhau fy nhraethawd hir hefyd!

Llunio cais llwyddiannus

Rwyf bellach wedi cwblhau dau gais interniaeth, ac o ystyried digon o amser i gwblhau’r broses ymgeisio, roedd yn hanfodol. Efallai y bydd rhai, megis Cynllun Cyfnewid Globalink UKRI (nad oeddwn yn gallu ei gwblhau yn anffodus o ystyried cyfyngiadau teithio rhyngwladol), yn gofyn i chi gael mynediad at byrth cais drwy oruchwylydd neu gyfrif sefydliadol (Je-S yn yr achos hwn). Os felly, trefnwch gyfarfod gyda’ch goruchwyliwr i sicrhau y gallwch lanlwytho’r cais yn brydlon!

Byddwn yn argymell siarad â darpar oruchwylwyr o’r sefydliad sy’n cynnig yr interniaeth. Mae trafod syniadau prosiect gyda nhw yn eich galluogi i ddeall yr hyn y maent yn ei ddisgwyl gan eu cyd-aelodau, ac a fydd eich gwaith yn cyd-fynd yn dda â’u gwaith nhw. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi drafod eu proses ymgeisio a’r dogfennau y bydd gofyn i chi eu cyflwyno. Gall dod i adnabod goruchwyliwr posibl mewn galwad gychwynnol hefyd helpu yn ystod y broses gyfweld ac wrth i chi setlo i mewn i’ch gwaith gyda sefydliad newydd, gan na fyddwch yn wynebu sgrîn neu swyddfa sy’n llawn wynebau cwbl anghyfarwydd.

Fy mhrofiad yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Roedd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am waith y Ganolfan a sut maen nhw’n cefnogi llunio polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Er ei bod yn rhyfedd peidio â gosod troed yn eu swyddfeydd, fe’m gwnaed i deimlo bod y tîm yn croesawu hynny ac roedd eu cefnogaeth yn gwneud y profiad rhithwir yn werth chweil. Roedd gweithio gyda’r Tîm Ymchwil yn caniatáu i mi ddatblygu fy nghredau presennol ac ystyried y ffordd orau o’u cymhwyso mewn cyd-destun tîm newydd.

Yn ystod fy nghyfnod yn y Ganolfan ymchwiliais i bolisi amaethyddol yng Nghymru ac archwilio sut y gall cydweithio helpu ffermwyr i gyflawni eu nodau cynaliadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys cyfweliadau dros y ffôn gyda ffermwyr a phartneriaid grŵp a ariannwyd gan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy yng ngogledd Cymru. Roedd cynnal yr ymchwil hon, a chynhyrchu nifer o allbynnau, yn rhoi hwb i’m hyder wrth gyflawni prosiectau tymor byr. Byddwn yn argymell archwilio’r gwahanol opsiynau lledaenu sydd ar gael ar gyfer eich gwaith – cyn fy interniaeth doeddwn i erioed wedi ystyried cynhyrchu podlediad, ond diolch i’r tîm a’m cyfranogwyr podlediad, mae gen i bennod podlediad i gyd-fynd â’m hallbynnau ysgrifenedig!

Bydd eich profiad interniaeth yn amrywio yn dibynnu ar y sefydliad rydych chi’n gweithio gydag ef. Fodd bynnag, yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl:

  • Datblygu eich cymwyseddau, yn enwedig mewn perthynas â gweithio mewn tîm.
  • Datblygu rhwydweithiau gyda llunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr eraill.
  • Cael dealltwriaeth o sut y gellid defnyddio’ch ymchwil mewn sefyllfaoedd ‘byd go iawn’.
  • Gorffennwch eich prosiect gydag o leiaf un allbwn, megis adroddiad, a all gyfrannu at eich PhD neu gael ei ddefnyddio a’ch cyfeirio gan eich sefydliad sy’n lletya interniaeth yn eu gwaith.

Byddwn yn eich annog yn gryf i ystyried cwblhau interniaeth fel rhan o’ch PhD. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fy mhrofiad interniaeth fy hun, mae croeso i chi gysylltu â mi (aimeemorse@connect.glos.ac.uk /@06aims ar Twitter)

Mae Aimee hefyd wedi ysgrifennu adroddiad sy’n manylu ar fanylion ei chyfnod gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, y gallwch ei ddarllen drwy glicio yma.

Rhoi Pŵer PhD yn eich Busnes

Ymunwch â ni am gyflwyniadau gan fusnesau sydd wedi gweithio’n agos gydag ymchwilwyr doethurol gwyddorau cymdeithasol i gynyddu cynhyrchiant, gwireddu nodau strategol, ac adeiladu i gefnogi datblygiad talent a sgiliau yng Nghymru.  Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru yn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol, fel un o 14 o rwydweithiau ymchwil o fri ledled y DU. Mae cydweithio â phartneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn ganolog i’n cenhadaeth.  Gall sefydliadau anacademaidd elwa o ddifrif ar brosiect ymchwil gwyddorau cymdeithasol a chwarae rhan yn y gwaith o feithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw.

Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed gan Dr Charlotte Beale, Pennaeth Economeg Dŵr Cymru, Dr Michael Evans, Swyddog Prosiectau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, a’r Athro David Egan, Llywodraeth Cymru, ar sut mae eu sefydliadau wedi gweithio’n agos gydag ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol.  Byddwch yn clywed sut y gall cefnogi efrydiaeth gydweithredol neu gynnal lleoliad gwaith ychwanegu gwerth, tra’n rhoi cyfle i fyfyriwr PhD ennill gwybodaeth a sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith mewn diwydiant.  Bydd yr Athro John Harrington, Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru, yn rhoi cyngor ar sut i sefydlu trefniant sydd o fudd uniongyrchol i’ch sefydliad.  Mae’r sesiwn yn cynnwys y cyfle i chi gyflwyno unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ar gydweithio â phanel o oruchwylwyr, myfyrwyr doethurol a busnesau.

Ymunwch â ni ddydd Mercher 20 Hydref 2021 am yr hyn sy’n addo i fod yn sesiwn addysgiadol.  I gofrestru ar gyfer y briff hwn, a gynhelir ar Zoom, dilynwch y ddolen hon Briff Brecwast – Rhoi Pŵer PhD yn eich Tocynnau Busnes, Dydd Mercher 20 Hyd 2021 am 08:30 | Eventbrite