Cynrychiolwyr Myfyrwyr

Mae cynrychiolwyr myfyrwyr PHD Cymru ar gyfer Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Abertawe yn gyfrwng hanfodol ar gyfer sylwadau/syniadau gan gyd-fyfyrwyr wedi eu cyllido drwy ESRC ar draws y llwybrau a’r ysgolion academaidd. Mae ganddynt rôl hanfodol wrth gyfleu sylwadau a chynigion er mwyn helpu i wella hyfforddiant ymchwil a’r profiad cyffredinol i fyfyrwyr PhD.

Cynrychiolwyr myfyrwyr cyfredol

Y cynrychiolwyr myfyrwyr yw

  • I’w gardarnhau (Prifysol Aberystywth)
  • I’w gardarnhau (Prifysgol Bangor)
  • Megan James (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
  • Shalini Ganasan (Prifysgol Caerdydd)
  • I’w gardarnhau (Prifysgol Caerdydd)
  • Flo Avery (Prifysgol Abertawe)
  • Aimee Morse (Prifysgol Swydd Gaerloyw)

Rôl y cynrychiolydd myfyrwyr

  • Cynnwys myfyrwyr eraill drwy ddarparu adborth, barn a syniadau
  • Gweithredu fel pwynt canolog ar gyfer casglu a lledaenu gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr wedi eu cyllido gan ESRC (ar draws pob blwyddyn) yn y sefydliad
  • Helpu PHD i nodi’r anghenion ar gyfer darparu hyfforddiant uwch
  • Amlygu problemau ac awgrymu gwelliannau i ddarpariaeth PHD o gymorth a chyfleoedd ystod cyfnod hyfforddiant ac ymchwil y myfyriwr PhD.

Ni ddylid gofyn i gynrychiolwyr myfyrwyr ymwneud â phroblemau personol, anawsterau academaidd nac anghydfodau unigol myfyrwyr eraill.

Mae’r holl gynrychiolwyr myfyrwyr yn cyfrannu at gyfarfodydd chwarterol (drwy gyswllt fideo) sy’n cael eu cynnal cyn cyfarfodydd y grŵp rheoli, a fydd yn ystyried canlyniadau’r cyfarfodydd cynrychiolwyr myfyrwyr.

Mae’r cynrychiolydd arweiniol hefyd yn aelod o Grŵp Rheoli PHD.

Mae rôl cynrychiolydd myfyrwyr yn para am gyfnod o 12 mis (Ebrill – Mawrth). Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr newydd yn cael cyfle i gymryd rhan bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae’n bosibl i gynrychiolwyr gael eu hail-enwebu am ail dymor.

Dewis

Anfonir y cais blynyddol am gynrychiolwyr drwy’r wefan, y cylchlythyr a ffurfiau eraill o gyfathrebu. Gofynnir i enwebeion amlinellu, yn fyr, pam y byddent yn gwneud cynrychiolydd myfyrwyr da, a sicrhau cefnogaeth dau gyd-fyfyriwr sy’n cael eu cyllido gan ESRC ar gyfer eu enwebiad.

Bydd un cynrychiolydd myfyrwyr yn cael ei ddewis ar gyfer pob sefydliad (dau ar gyfer Prifysgol Caerdydd). Pan fydd rhagor o enwebiadau na swyddi, bydd pleidlais ymysg cyd-fyfyrwyr, lle gofynnir iddynt nodi ffafriaeth.