Mae cynadleddau blynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn denu cydweithwyr o bob rhan o’r sectorau academaidd, polisi, sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru; ac mae wedi ennill ei phlwyf fel cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru.
Cynhelir cynhadledd 2022 WISERD ar 6-7 Gorffennaf yn Abertawe.
Rydym yn gweithio’n agos â’n cydweithwyr yn WISERD wrth gynllunio cynadleddau, sy’n cynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr doethurol gyflwyno papurau, rhoi cynnig ar gystadlaethau a phroffilio agweddau eraill ar eu gwaith mewn cyd-destun bywiog a chefnogol. Rydym hefyd fel arfer yn cyfrannu sesiwn hyfforddi.
Rydym yn annog holl fyfyrwyr DTP Cymru i fynd i’r digwyddiad blynyddol pwysig hwn.