Mae gan PHD Cymru Gyfarwyddwr, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolwr, Swyddog e-ddysgu ag Gynrthwy-ydd Gweinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd, sef sefydliad arweiniol y consortiwm PHD.
Grŵp llywio
Mae grŵp llywio yn goruchwylio a monitro cyfeiriad strategol a datblygiad PHD, gan sicrhau ei fod yn ategu strategaethau ymchwil y sefydliadau partner ac yn ymatebol i ddatblygiadau mewn polisi ymchwil.
Grŵp rheoli
Mae’r grŵp rheoli yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r sefydliadau partner (dau o’r sefydliad arweiniol), cynrychiolydd y cynullwyr llwybrau, cynrychiolydd myfyrwyr, yn ogystal â Chyfarwyddwr a Rheolwr PHD. Y grŵp hwn yw’r prif fecanwaith ar gyfer cynrychiolaeth barhaus y chwe sefydliad yn yr holl faterion gweithredol pwysig.
- Dr Tom Hall (Prifysgol Caerdydd)
- Dr Jan Ruzicka (Prifysgol Aberystwyth)
- Dr Ross Roberts (Prifysgol Bangor)
- Dr Lynne Evans (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
- Dr Matthew Reed (Prifysgol Swydd Gaerloyw)
- Dr Lucy Griffiths (Prifysgol Abertawe)
- Yr Athro Caroline Lloyd (MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd)
- Yr Athro William Housley (cynrychiolydd y cynullyddion llwybrau)
- Cynrychiolydd y myfyrwyr
Cynrychiolwyr Myfyrwyr
Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr PHD Cymru ar gyfer pob un o’r sefydliadau partner yn sianel hanfodol i gasglu sylwadau/syniadau gan gyd-fyfyrwyr a gyllidir gan ESRC ar draws ysgolion a llwybrau academaidd. Mae cynrychiolydd myfyrwyr arweiniol yn aelod o grŵp rheoli DTP Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen y cynrychiolwyr myfyrwyr.