Cystadleuaeth Gyffredinol – Sut i wneud Cais  

Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad Cystadleuaeth Gyffredinol 2024 YGGCC. Gwahoddir darpar fyfyrwyr sydd am wneud cais am ysgoloriaeth ESRC i ymgymryd â phrosiect ymchwil PhD o’u dyluniad eu hunain (gan ddechrau yn y flwyddyn academaidd 2024/25) i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, sef 12 Ionawr 2024. Sylwer: efallai y bydd gan sefydliadau ddyddiadau cau cynharach, bydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gyffredinol YGGCC.   

Fel rhan o’r asesiad o ymgeiswyr, mae gan YGGCC ddiddordeb mawr ynoch chi fel unigolyn cyfan. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag edrych ar eich cyflawniadau academaidd yn unig (er enghraifft, nid oes angen gradd dosbarth cyntaf er mwyn cael eich asesu fel myfyriwr PhD rhagorol ac i dderbyn cyllid), byddwn yn ystyried yr hyn y gallwch ei gynnig i’r PhD drwy eich gwaith a’ch profiadau bywyd amrywiol, yn ogystal â’r heriau rydych wedi’u hwynebu (dylid manylu ar y rhain yn eich cais yn eich llythyr eglurhaol a’ch CV).   

Mae’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn cael ei chynhyrchu gan yr ymgeisydd; mae’n rhaid i chi gyflwyno eich prosiect PhD eich hun. Mae hyn yn wahanol i’r Gystadleuaeth Gydweithredol. Mae’r Gystadleuaeth Gydweithredol yn cael ei chynhyrchu gan oruchwyliwr; rydych chi’n dewis o blith catalog presennol o brosiectau.  

Amserlen y Gystadleuaeth Gyffredinol  

Hydref 2023   Ceisiadau’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn Agor    
12/01/2024   Dyddiad cau i fyfyrwyr wneud cais  Ar ôl y dyddiad cau; caiff ceisiadau eu hasesu gan ysgolion a llwybrau academaidd. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad yn fuan ar ôl y dyddiad cau. Os yw myfyriwr yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol yn cael ei gwblhau gan oruchwylwyr.  
28/02/2024  Anfonir ceisiadau ar y rhestr fer at YGGCC  Caiff ceisiadau eu hadolygu gan Is-grŵp Bwrdd Rheoli YGGCC.  
12/03/2024   Cytuno ar y dyfarniadau  Bydd YGGCC yn cysylltu ag ymgeiswyr i rannu eu penderfyniad o ran yr ysgoloriaeth. Gall ymgeiswyr gael eu rhoi ar y rhestr wrth gefn ar y cam hwn os nad ydynt wedi bodloni’r rhestr ar gyfer dyfarniad awtomatig.  
12/03/2024 -  18/04/2024  Cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn  Bydd YGGCC yn trefnu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i brosesu Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn a fydd yn pennu’r hyfforddiant sy’n ofynnol yn yr ysgoloriaeth a hyd yr astudiaeth, gan ei gyfateb â’r ddarpariaeth sydd ar gael.  
Mai 2024  Prosesu cynigion ffurfiol  
Mai 2024  Cyhoeddi llythyr ariannu ffurfiol  

Y broses ymgeisio  

Cam 1 – Dewis Llwybr  

Y cam cyntaf yw darganfod pa brifysgolion partner yn YGGCC sy’n cynnig hyfforddiant ymchwil a goruchwyliaeth yn y maes rydych chi am weithio ynddo. Mae 15 llwybr hyfforddi ar draws 7 prifysgol yn YGGCC. Nid yw pob llwybr ar gael ym mhob prifysgol. Mae ein tudalennau Llwybrau yn rhoi manylion am y pynciau sydd ym mhob llwybr. Os nad ydych yn siŵr ym mha lwybr hyfforddi y mae eich prosiect ymchwil arfaethedig, cysylltwch â’r Arweinydd Llwybr a enwyd i gael cyngor.   

Cam 2 – Paru â goruchwyliwr  

Dylech ddatblygu ymdeimlad cyffredinol o’r prosiect ymchwil rydych am ei ddilyn yn eich PhD, ac yna mynd at academydd yn un o sefydliadau partner YGGCC mewn llwybr sy’n addas i’ch prosiect. Rhaid i’r prif oruchwyliwr fod wedi’i leoli yn un o’r adrannau/ysgolion achrededig. Mae’r tudalennau staff academaidd ar wefannau sefydliadau partner YGGCC yn lle gwych i ddechrau, bydd gan y rhan fwyaf o’r tudalennau staff academaidd fywgraffiad sy’n manylu ar eu maes pwnc o ddiddordeb.   

Fel arall, gallwch fynd at Cynullydd Llwybr YGGCC, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i oruchwyliwr addas.   

Rydym yn cydnabod bod gan fyfyrwyr brofiad amrywiol o lunio cynlluniau ymchwil. Fel rhan o’n hymrwymiad i ehangu cyfranogiad, anogir holl oruchwylwyr YGGCC i gefnogi ymgeiswyr i ddatblygu cynigion, gan adeiladu ar eu cryfderau a’u profiadau penodol.    

Cam 3 – Gwneud cais i’r sefydliad o’ch dewis  

Unwaith y byddwch wedi dewis eich llwybr a’ch sefydliad, dylech wneud cais ffurfiol drwy dudalennau’r brifysgol berthnasol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a dogfennau angenrheidiol yn eich cais. Rhaid anfon pob dogfen erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn.  

Cam 4 – Adolygu’r cais  

Caiff eich cais ei adolygu gan yr adran/prifysgol lle mae eich darpar oruchwyliwr wedi’i leoli. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw benderfynu ar gynnig lle PhD i chi.  

Cam 5 – Cyfweliad ac enwebiad

Os ydych yn llwyddiannus ac yn cyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfweliad gan banel llwybr. Os bydd eich cyfweliad yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei enwebu gan yr Arweinydd Llwybr i Fwrdd Rheoli YGGCC i’w adolygu. Bydd eich darpar oruchwyliwr hefyd yn cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol i asesu eich profiad a’ch gofynion hyfforddi. Yna bydd YGGCC yn cysylltu â chi i gadarnhau eu bod wedi derbyn eich cais.   

Cam 6 – Canlyniad  

Yn dilyn adolygiad gan is-grŵp cystadleuaeth arbennig y Bwrdd Rheoli, bydd YGGCC wedyn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr enwebedig i roi eu canlyniadau. Os byddwch yn llwyddiannus, anfonir cadarnhad o lythyr ariannu atoch y bydd angen i chi ei dderbyn neu ei wrthod o fewn pythefnos. Unwaith y byddwch wedi derbyn y cynnig, bydd gofyn i chi fynychu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i gwblhau eich Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn.  

Cam 7 – Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cwrdd ag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC a fydd yn defnyddio’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol i helpu i adolygu eu profiad a’u hanghenion hyfforddi yn fanwl, gan gyfateb hyn â darpariaeth hyfforddi yn YGGCC. Bydd hyn yn caniatáu i’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn gael ei gwblhau, gan nodi hyfforddiant gofynnol a sefydlu hyd y dyfarniad.   

Cam 8 – Cynnig ffurfiol  

Unwaith y bydd hyd y dyfarniad wedi’i gadarnhau, byddwch wedyn yn cael llythyr dyfarnu ffurfiol a llythyr ariannu gan y sefydliad rydych wedi gwneud cais iddo.   

Dogfennau sydd eu hangen ar gyfer y cais  

Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu’r dogfennau canlynol i gefnogi eu cais. Mae angen cyflwyno’r dogfennau hyn erbyn y dyddiad cau ar 12 Ionawr 2024. Sylwer: efallai y bydd gan sefydliadau ddyddiadau cau cynharach, bydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gyffredinol YGGCC. Os bydd unrhyw ddogfen ar goll o’ch cais, bydd yn cael ei ystyried fel cais anghyflawn ac ni fydd yn gallu symud ymlaen i’r cam rhestr fer.  

1Llythyr eglurhaol  

Dim mwy na dwy dudalen 

Rhaid i’r llythyr eglurhaol gynnwys y pwyntiau bwled canlynol fel is-benawdau:  

  • Nodwch eich rhesymau a’ch cymhelliant dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol XXXX, a’r llwybr academaidd XXXX.   
  • Beth yw eich dealltwriaeth a’ch disgwyliadau o astudio doethuriaeth?  
  • Rhowch fanylion am eich diddordebau academaidd cyffredinol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â’ch maes ymchwil arfaethedig.  
  • Gan sôn am eich cefndir eich hun (gan gynnwys eich profiadau bywyd, taith i/drwy brifysgol, profiadau gwaith neu wirfoddoli) rhowch grynodeb o pam eich bod yn barod i ymgymryd â PhD nawr a sut byddwch yn ffynnu o ganlyniad i gyllid PhD. Efallai y byddwch am gynnwys, er enghraifft, heriau personol rydych wedi’u goresgyn neu gyflawniadau rydych yn falch ohonynt yn eich gwaith, eich astudiaethau neu brofiadau bywyd a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn rhaglen PhD a gwneud cyfraniad cadarnhaol i YGGCC. Gallai heriau gynnwys, ymhlith eraill, nodweddion gwarchodedig, statws economaidd-gymdeithasol a bod yn ddarpar fyfyriwr cenhedlaeth gyntaf i fynd i’r brifysgol neu â phrofiad o ofal.  
  • Gan fyfyrio ar eich cefndir a/neu ddull arfaethedig o astudio PhD a’r cyfleoedd y bydd yn eu cyflwyno, sut byddwch yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn y gymuned PhD?  

  

2 – CV academaidd  

Dim mwy na dwy dudalen 

3 – Cynnig ymchwil   

Ddylai’r cynnig ddim bod yn fwy na 1,000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau llyfryddiaethol. Awgrymwn eich bod yn defnyddio’r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil:   

  • Teitl, amcanion a phwrpas yr ymchwil;   
  • Trosolwg byr o’r llenyddiaeth academaidd sy’n berthnasol i’ch maes;   
  • Dyluniad/dulliau arfaethedig;    
  • Cyfraniadau academaidd eich ymchwil.   
  • Cyfeiriadau Llyfryddiaethol   

4 – Dau eirda academaidd neu broffesiynol  

Rhaid i’r ymgeiswyr ofyn i’r canolwyr eu hunain, a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Rhaid i’r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.

5 – Trawsgrifiadau a Thystysgrifau Gradd  

Gan gynnwys cyfieithiadau os yw’n berthnasol 

6 – Os yw’n berthnasol, prawf o Gymhwysedd Iaith Saesneg  

Gweler gofynion sefydliadol ar gyfer mynediad