Fel myfyriwr PHD Cymru wedi eich cyllido drwy ESRC, mae gennych fynediad at lawer o gyfleoedd ychwanegol.
- Drwy ein cyfleoedd interniaeth byddwn yn eich cefnogi chi gydag estyniad i’ch ysgoloriaeth ymchwil i weithio gyda sefydliad anacademaidd, gan ennill profiad gwerthfawr a sgiliau ychwanegol.
- Rydym yn darparu cyllid tuag at hyfforddiant ychwanegol ar gyfer hyfforddiant iaith anodd lle bo hynny’n briodol ar gyfer eich ymchwil.
- Mae gennym arian sydd ar gael i gyfrannu at gostau gwaith maes tramor lle mae hyn yn rhan annatod o’ch PhD.
- Gallwch wneud cais am gyllid i gefnogi ymweliad â sefydliad tramor.
- Os oes gennych anabledd sy’n golygu eich bod yn gorfod ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â’ch astudiaethau, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer ein lwfans myfyrwyr anabl.
- Yn ogystal, o bryd i’w gilydd rydym yn galw am geisiadau ar gyfer ein grantiau bach ar gyfer cyfleoedd i gydweithredu â sefydliadau anacademaidd, a gweithgareddau rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol.