Agoriad: Cyfnodolyn damcaniaeth ofodol

Wedi’i reoli a’i olygu gan ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, mae Agoriad yn gyfnodolyn mynediad agored ar-lein newydd. Mae uwch dîm golygyddol hefyd yn cynnig cymorth a goruchwyliaeth. Ei nod yw cyhoeddi ymchwil o safon ar ddadleuon damcaniaethol allweddol, yn ogystal â chefnogi ymchwilwyr ar bob lefel i gyhoeddi eu gwaith.

Mae Agoriad, sy’n gyhoeddiad blynyddol, yn cael ei gefnogi gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) a’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caerdydd.

Mae tîm golygyddol Agoriad yn ceisio cyflwyniadau ar gyfer rhifyn sy’n canolbwyntio ar y syniad o ‘feddwl drwy deilchion’.  Mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig mewn cyflwyniadau gan ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, yn ogystal ag ymchwilwyr profiadol.

Mae tîm Agoriad yn falch o groesawu crynodebau ac ymholiadau, a’u nod yw cynnig llwybr i helpu awduron, o gyflwyno ymchwil i’w chyhoeddi. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am eich prosiect, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm golygyddol ar agoriad@caerdydd.ac.uk.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 31 Awst 2024

Manylion cyflwyno: https://agoriad.cardiffuniversitypress.org/

Meddwl drwy deilchion: atyniad y toredig, y gwrthodedig, a’r anghysylltiedig mewn daearyddiaeth 

Mae hi’n ganrif bron ers i Walter Benjamin gychwyn ar ei brosiect Das Passagen-Werk (sef Arcades Project yn y cyfieithiad Saesneg), lle’r aeth ati i graffu ar deilchion a gweddillion cyfalafiaeth y nwyddau traul, sef y darnau o isadeiledd a adawyd, a’r darnau mân gweddilliol o nwyddau nad oedd eu heisiau bellach ond eto a fu’n bresennol o hyd yn neunydd corfforol y ddinas; yr adfeilion a’r gweddillion a ddaliai i fod yn dyst i addewidion gwag am ddyfodol euraidd i’r lliaws. Mae gan y dernyn ryw fath o atyniad, mae’n ymddangos. Fe all dynnu’n sylw oherwydd nad yw ynghlwm wrth unrhyw ystyr penodol na naratif cydlynol neu oherwydd ei fod yn ddarn o ryw gyfanwaith coll.  Y ffaith mai rhywbeth a adawyd ar ôl ydyw sy’n ein denu at y dernyn bach, hynny yw, mae’n ddigyswllt, rhyw hynodbeth sy’n ein difyrru. Bydd y rhifyn hwn o Agoriad yn ystyried syniad y teilchyn a’r hyn y mae teilchion yn gallu ei ddweud wrthym am natur lle, o safbwynt ei ffurfio a’i  ailffurfio. Wrth i’r byd fynd yn fwyfwy dinesig ac wrth i fwy o bobl etifeddu isadeileddau, tai a chymdogaethau sydd wedi’u torri a’u darnio, rydym yn gwahodd cyfraniadau sy’n craffu ar yr hyn y mae’r teilchion tameidiog hyn yn gallu ei ddweud wrthym am sut mae pobl yn ffurfio bydoedd, yn bodloni’u dyheadau, ac yn creu ystyr. Anogwn y cyfranwyr i bwyso a mesur meddylwyr, yn amrywio o Walter Benjamin, Henri Lefebvre, Jean-Luc Nancy, Xa Julia Kristeva, i ysgrifenwyr sy’n gweithio yn nhraddodiad yr ‘isarall’ (subaltern) (e.e. Dipesh Chakrabarty a Partha Chatterjee), a daearyddwyr sydd wedi ysgrifennu mewn tameidiau ac arnynt (e.e. Caitlin DeSilvey  Tariq Jazeel, Colin McFarlane, Allan Pred a Karen Till). Fe all y gwaith a gyflwynir ddilyn Benjamin wrth edrych ar sut mae darnau’n dal i ennyn dyheadau, er bod yr amser a’r cyd-destun yn newid, ac yn defnyddio darnau gofodol i ystyried yr hylifedd sydd rhwng prynwriaeth dorfol a natur gyfareddol yr unigol. Fe ellir cyflwyno gwaith ar y rhan y mae’r dernyn yn ei chwarae mewn cynhyrchu gofodol a’r darnio sy’n digwydd cyn pob ffurfio gofodol. Yn ogystal ag ystyried sut y gall deunyddiau sydd wedi’u torri neu eu taflu gael eu defnyddio a’u ailgyflunio, fe all cyflwyniadau drafod hefyd sut y gellir gweld lleoedd trefol a gwledig fel ei gilydd yn gydgasgliadau o ddarnau, a sut y gellid ymdrin â’r darnau hyn yn ddeallusol ac yn fethodolegol. Drwy feddwl drwy gyfrwng teilchion, bydd y rhifyn hwn o Agoriad yn meithrin ein dealltwriaeth am natur ddarniedig gofod a lle.