Dyddiad Cau: Dydd Gwener 28 Mehefin 2019
Mae PHD Cymru’n chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig i ymgymryd â rôl Cynrychiolwyr Myfyrwyr PHD ar ran Prifysgolion Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe am dymor o 12 mis. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn gweithredu fel sianel ar gyfer sylwadau a syniadau gan gyd-fyfyrwyr ESRC PHD a gyllidir ar draws yr ysgolion a’r llwybrau academaidd yn eu sefydliad, gan gyflwyno adborth i’r PHD am bob agwedd ar brofiad y myfyriwr. Gofynnir i enwebeion amlinellu, yn gryno, pam bydden nhw’n gynrychiolydd myfyrwyr da a sicrhau cefnogaeth dau fyfyriwr arall sy’n cael eu hariannu gan yr ESRC PHD ar gyfer eu henwebiad.
Rôl y cynrychiolydd myfyrwyr:
- Cynnwys myfyrwyr eraill drwy ddarparu adborth, barn a syniadau
- Gweithredu fel pwynt canolog ar gyfer casglu a lledaenu gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr wedi eu cyllido gan ESRC (ar draws pob blwyddyn) yn y sefydliad
- Helpu PHD i nodi’r anghenion ar gyfer darparu hyfforddiant uwch
- Amlygu problemau ac awgrymu gwelliannau i ddarpariaeth PHD o gymorth a chyfleoedd ystod cyfnod hyfforddiant ac ymchwil y myfyriwr PhD.
Anfonwch eich enwebiad at enquiries@walesdtp.ac.uk.
Tanysgrifiwch ar gyfer ein ffrwd iCal i sicrhau bod ein digwyddiadau diweddaraf yn cael eu hychwanegu’n awtomatig at eich calendr. Os oes gennych Google Calendar, gallwch gofrestru, neu gopïo a gludo’r URL canlynol i’ch Calendr: http://www.phdcymru.ac.uk/events.ics.