Dyddiad Cau: Dydd Llun 2 Mawrth 2020
Y thema ar gyfer Cynhadledd WISERD 2020, a gynhelir 7-8 Gorffennaf yng Nghaerdydd, yw ‘Tystiolaeth, polisi a’r argyfwng mewn arbenigedd’. Dyma rai o’r themâu a allai fod o dan sylw:
- Y Gymdeithas Sifil
- Addysg
- Gwleidyddiaeth a Llywodraethiant
- Iechyd a Lles
- Y Marchnadoedd Llafur a Gwaith
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau cyflwyno a ffurflen ar wefan WISERD.