Mae ESRC yn falch iawn o lansio Gwobr Dathlu Effaith 2021

12:00 y.b. - 4:00 y.p., Dydd Llun 10 Mai 2021

Mae hwn yn gyfle blynyddol i gydnabod a gwobrwyo ymchwilwyr a gefnogir gan yr ESRC sydd wedi creu neu alluogi effaith ragorol. Rydym yn dathlu ymchwilwyr ym maes y gwyddorau cymdeithasol ar bob cam o’u gyrfa y mae eu gweithredoedd wedi cefnogi newidiadau mewn ymarfer, meddwl neu gapasiti sy’n creu effaith gadarnhaol yn ein cymdeithas, yr economi ac yn ein bywydau, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae croeso i ymchwilwyr a gefnogwyd gan yr ESRC yn flaenorol a’r rhai a gefnogir yn awr, gan gynnwys myfyrwyr doethurol, a cheir pum categori yn y gystadleuaeth eleni:

  • Effaith Rhagorol mewn Menter a Busnes
  • Effaith Ragorol ym maes Polisi Cyhoeddus
  • Effaith Gymdeithasol Ragorol
  • Effaith Ryngwladol Ragorol
  • Effaith Ragorol ar Ddechrau Gyrfa
  • Caiff ffilm broffesiynol ei gwneud am y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol sy’n trafod eu gwaith a’i effaith.

Bydd yr enillwyr yn cael £10,000 i’w wario ar gyfnewid gwybodaeth, ymgysylltu â’r cyhoedd, neu weithgareddau eraill sy’n ymwneud ag effaith. I wneud cais, mae ymchwilwyr (yn unigol neu mewn tîm) yn llenwi ffurflen ar-lein yn nodi eu gweithgareddau effaith a’u cyflawniadau. Adolygir hyn gan academyddion, arbenigwyr ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth a defnyddwyr ymchwil. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad, ynghyd â chefnogwyr anacademaidd sy’n helpu i ddisgrifio effaith y gwaith. Mae’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn mynd i seremoni wobrwyo proffil uchel, lle mae’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi.

Amserlen
Ceisiadau yn agor: 18 Mawrth 2021
Ceisiadau yn cau: 10 Mai 2021 am 16:00 Amser y DU
Cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer: 20 – 21 Gorffennaf 2021
Seremoni wobrwyo: Tachwedd 2021 (dyddiad i’w gadarnhau)

Darllenwch ragor am sut i wneud cais.