Dyddiad Cau: Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2020
Mae’r Llyfrgell Brydeinig bellach yn derbyn ceisiadau am leoliadau ymchwil PhD yn 2020-21. Cynigir ystod eang o brosiectau mewn amrywiaeth o feysydd ar draws y Llyfrgell am 3 mis neu’r hyn sy’n cyfateb yn rhan-amser, i’w cynnal unrhyw bryd rhwng mis Mai 2021 a mis Mawrth 2022. Gellir ymgymryd â phrosiectau gyda’r opsiwn o weithio o bell yn rhannol neu’n llwyr.
Mae’n hanfodol fod ymgeiswyr yn sicrhau cefnogaeth eu goruchwyliwr PhD ymlaen llaw. Nid yw’r Llyfrgell Brydeinig yn gallu darparu cyllid i fyfyrwyr ar leoliad, felly os ydych chi’n fyfyriwr DTP Cymru sy’n dymuno gwneud cais dylech gysylltu â DTP Cymru (enquiries@walesdtp.ac.uk) i ddechrau i drafod y posibilrwydd o gyllid.
Ceir manylion llawn, arweiniad ar wneud cais a ffurflen gais ar wefan y Llyfrgell Brydeinig.