Gweminar PhD Dechrau Arni gyda’r Llyfrgell Brydeinig

2:00 y.p. - 4:45 y.p., Dydd Mercher 13 Ionawr 2021

Bydd y gweminar hwn yn rhoi trosolwg o gasgliad eang y Llyfrgell Brydeinig, yn ogystal ag awgrymiadau ymarferol ynghylch sut i ddefnyddio eu catalogau a dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas eu hadnoddau digidol. Mae’n addas ar gyfer ymchwilwyr o bob disgyblaeth a maes pwnc.

Wrth gadw lle ar gyfer y gweminar hwn, cewch ddewis pa fodiwlau ychwanegol yr hoffech eu hastudio wedi hynny:

  • Casgliadau Cyfandiroedd America ac Ynysoedd y De (20 Ionawr)
  • Casgliadau Asiaidd ac Affricanaidd (27 Ionawr)
  • Casgliadau Gorllewin ac Ewropeaidd (3 Chwefror)
  • Mwy Na Llyfrau… (10 Chwefror)
  • Casgliadau Cerddoriaeth (17 Chwefror)
  • Casgliadau Cymdeithas a Diwylliant Cyfoes (24 Chwefror)
  • Mwy Na Llyfrau o Hyd… (3 Mawrth)

Edrychwch ar y rhaglen lawn ar wefan y Llyfrgell Brydeinig a chofrestru ar gyfer y gweminar.