Dyddiad Cau: Dydd Llun 17 Chwefror 2020
Rydym yn cynnig cyfle am interniaeth tri mis a fydd yn dechrau ym mis Mawrth 2020, i fyfyrwyr a ariennir gan PHD Cymru ESRC a PHD De-orllewin Lloegr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael estyniad tri mis wedi’i dalu ar gyfer ei PhD. Dyma gyfle i weithio y tu allan i’ch prifysgol i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy, gwella eich cyflogadwyedd ac ennill profiad hynod werthfawr o weithio gydag ymchwilwyr cymdeithasol, ystadegwyr, a swyddogion polisi ar waith dadansoddi o fewn y llywodraeth. Os oes diddordeb gennych, dylech drafod y cyfle hwn â’ch goruchwyliwr cyn cyflwyno cais.
Mae manylion pellach a’r manylion cyswllt i’w gweld yn y ddogfen a atodir.
Sylwer bod yr interniaeth hon ar gael i unrhyw fyfyriwr a ariennir gan DTP ESRC Cymru neu DTP De-orllewin Lloegr (heblaw am y rheini y mae eu hysgoloriaeth ymchwil wedi dechrau yn ystod y tri mis diwethaf neu’n dod i ben ymhen tri mis).
Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4y.p. y dyddiad cau.