Manylion llwybrau

Mae astudiaethau ardal yn faes rhyngddisgyblaethol sy’n ymwneud â rhanbarthau daearyddol, cenedlaethol/ffederal, neu ddiwylliannol penodol. Mae’n dwyn ynghyd ieithoedd, gwleidyddiaeth, hanes, cymdeithaseg, astudiaethau datblygiad, ethnograffeg, cyfieithu/ieithyddiaeth gymhwysol ac astudiaethau diwylliannol o fewn ei astudiaeth o gyfandiroedd, gwledydd a rhanbarthau penodol. Yr ardal yw’r elfen allweddol, sy’n galluogi astudio nodweddion cyffredin/cydgyfeirio sy’n wynebu gwledydd yn ogystal â dadansoddi clystyrau o wledydd. Mae’r sylfaen iaith yr un mor bwysig: mae hygrededd mewn ymchwil mewn unrhyw faes yn tybio’r gallu i ryngweithio mewn ieithoedd perthnasol.

Mae gan fyfyrwyr ar y llwybr Astudiaethau Ardal yn Seiliedig ar Ieithoedd Byd-eang fynediad at amgylcheddau ymchwil bywiog gyda chyfres o seminarau sy’n cynnwys staff Ieithoedd Modern a Gwleidyddiaeth drwy’r grŵp ymchwil Llywodraethu, Hunaniaeth a Pholisi Cyhoeddus Ewropeaidd (EGIPP), sy’n cael ei gyfarwyddo ar y cyd gan y clwstwr ‘Gwrthdaro, Datblygu a Thrychinebau’ mewn Ieithoedd Modern (sy’n gweithio’n agos â Gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd a chydweithwyr yn Abertawe) a’r uned ymchwil Astudiaethau Rhyngwladol (hefyd mewn Gwleidyddiaeth gyda chyfraniad gan Ieithoedd). Gan hynny, mae’r llwybr yn seiliedig ar ddau faes ymchwil, y cadarnhaodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 eu bod o’r ansawdd uchaf.

Mae’r llwybr yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant ieithoedd. Mae myfyrwyr ar y llwybr ‘1+3’ yn cwblhau modiwl arbenigol naill ai mewn Cysylltiadau Rhyngwladol neu Lywodraethu a Pholisi Cyhoeddus Ewropeaidd fel rhan o’r rhaglen Meistr dulliau ymchwil gwyddorau cymdeithasol ryngddisgyblaethol, tra’n datblygu amrywiaeth o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau. Y tu hwnt i’r radd Meistr, ac ar gyfer myfyrwyr sy’n ymuno â’r llwybr fel ymgeiswyr ‘+3’, mae cyrsiau lefel Meistr pwnc-benodol ar gael, fel Dulliau Ymchwil: Ymagweddau at Wybodaeth, yn ogystal â hyfforddiant dulliau cymysg mewn dadansoddiadau cymharol (drwy Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru – WISERD). Mae hyn ar ben digwyddiadau hyfforddi penodol: Caffis Dulliau Ymchwil rheolaidd, cynadleddau a hyfforddiant ar gyfer cyflwyniadau, yn ogystal â phapurau a thrafodaethau o gwmpas y bwrdd ar ddisgyblaethau penodol.

Proffiliau myfyrwyr