Cymrawd Ôl-ddoethurol : Dr Dylan Marshall

Dr Dylan Marshall, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth

Teitl: ‘Arbenigedd’ mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol: Beth all astudio ‘arbenigwyr’ ar grŵp y Wladwriaeth Islamaidd ei ddweud wrthym? 

Fel y mae datblygiadau diweddar mawr, o Brexit, i newid hinsawdd, i COVID-19 wedi datgelu, mae’r broses o greu ‘arbenigwyr’ yn gymdeithasol ac yn wleidyddol yn hanfodol ar gyfer penderfynu ar y wybodaeth a gynhyrchir. Mae’r ddau yn eu tro yn llywio’r ffordd y mae elitau polisi a chymdeithasau ehangach yn deall ac yn ymateb i heriau byd-eang.  

Er bod y digwyddiadau hyn wedi dod â natur ddadleuol yr arbenigedd i sylw’r cyhoedd, mae elfen ddadleuol hon hefyd wedi bod yn bresennol ym maes astudio ‘terfysgaeth’ ers degawdau. Roedd fy ymchwil PhD yn archwilio ymddangosiad grŵp y Wladwriaeth Islamaidd yn 2014 a’r broses o ddatblygu ‘arbenigwyr ISIS’ mewn ymateb i hynny.  

Mae fy ymchwil wedi dangos nad oedd cysondeb ymhlith cynhyrchwyr gwybodaeth ynghylch y Wladwriaeth Islamaidd (dadansoddwyr academaidd, polisi a sector preifat, newyddiadurwyr, ymhlith eraill) a defnyddwyr elît (e.e., llywodraeth, cyfryngau) ynghylch pwy sy’n ‘arbenigwr’ a pha briodoleddau sy’n gyfystyr ag awdurdod ‘arbenigol’. Ynghanol yr ansicrwydd hwn, roedd yn archwilio’r gwahanol ffynonellau dilysu a ddefnyddiwyd gan arbenigwyr a’r strategaethau a ddefnyddiwyd ganddynt i gael cydnabyddiaeth gwahanol gynulleidfaoedd. Roedd fy ymchwil yn archwilio ymhellach sut y gwnaeth gwahanol leoliadau, o gynadleddau i’r cyfryngau cymdeithasol, lywio sut y cafodd gwybodaeth ei rhoi ar led ac y cafodd arbenigwyr a chymunedau arbenigol eu creu.  

Yn ystod y gymrodoriaeth hon, byddaf yn defnyddio’r ymchwil hon ochr yn ochr ag ymchwil bellach i greu drafft ar gyfer llyfr. Bydd y drafft yn cyflwyno’r canfyddiadau hyn ac yn eu cymhwyso ymhellach i gwestiynau ehangach am ddatblygiad arbenigedd ym maes cysylltiadau rhyngwladol cyfoes. Byddaf hefyd yn gweithio ar gyhoeddiad sy’n ceisio gwneud rhagor o arloesi mewn perthynas â’r dulliau damcaniaethol a ddefnyddir yn y prosiect hwn. Rwy’n bwriadu mynd i sawl cynhadledd academaidd yn y DU ac Ewrop i ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach, yn ogystal â chyflwyno fy ymchwil i randdeiliaid polisi tramor a diogelwch sydd â diddordeb mewn sut y penderfynir ar bwy sy’n ‘arbenigwyr’ ar derfysgaeth a sut y cânt eu defnyddio wrth lunio polisïau.

Ebost: djm17@aber.ac.uk