Cymrawd Ôl-ddoethurol : Dr Ryan Tristram-Walmsley

Dr Ryan Tristram-Walmsley, Economeg, Prifysgol Abertawe  

Teitl:  Emosiwn ac Ymfudo yn Hanes Prydain Fodern  

Roedd fy ymchwil ddoethurol yn archwilio’r ffyrdd y mae ymfudo ac emosiwn wedi rhyngweithio â’i gilydd yn hanes Prydain fodern, gan ganolbwyntio’n benodol ar symudiadau ymfudo pobl o ynysoedd y Caribî a ddaeth i Brydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd.  

Yn y Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol hon, byddaf yn parhau i archwilio’r cysylltiadau hyn ac yn dechrau cyhoeddi fy ymchwil. Er enghraifft, mae’r llif ymfudo hwn yn aml yn cael ei ystyried yn enghraifft o “ymfudo economaidd” (pobl sy’n symud i wlad arall i gael cyflogau a safonau byw gwell). Rydw i wedi canfod bod y cymhelliant “economaidd” hwn mewn gwirionedd yn un emosiynol: roedd y teimladau negyddol a deimlodd rhai pobl Caribïaidd o ganlyniad i dlodi yn eu cymell i symud i Brydain. Canlyniad i hyn yw nad yw’n hawdd gwahanu emosiynau “afresymol” oddi wrth fywyd economaidd “rhesymegol”.  

Yn ogystal, byddaf yn mireinio a chyhoeddi fy ngwaith ynghylch “partis blues”. Roedd y rhain yn bartis yr oedd ymfudwyr Caribïaidd yn eu cynnal yn eu cartrefi, yn aml oherwydd eu bod yn cael eu hallgáu o glybiau nos Prydain. Byddaf yn dadlau bod y lleoedd hyn yn “loches emosiynol” – roeddent yn gweithredu fel mannau diogel i ymfudwyr fynegi a theimlo rhai emosiynau. Byddaf hefyd yn dadlau bod y gwahaniaethu yr oedd ymfudwyr Caribïaidd yn ei hwynebu ym Mhrydain wedi’i seilio ar rai emosiynau, megis ofn a chasineb.  

At ei gilydd, bydd y prosiect hwn yn rhoi dealltwriaeth lawer gwell inni o’r berthynas rhwng emosiwn, economeg, ac ymddygiad cymdeithasol, a sut y cyfunodd y rhain i helpu i wneud Prydain yr hyn ydyw heddiw. Mae hyn yn dweud wrthym sut y gwnaethom gyrraedd y pwynt hwn, a’r cyfeiriad y gallem fynd iddo o ystyried ein sefyllfa bresennol. 

Ebost: r.tristram-walmsley@swansea.ac.uk