Cymrawd Ôl-ddoethurol : Dr Steve Westlake

Dr Steve Westlake, Seicoleg, Prifysgol Caerdydd 

Teitl: Manteision arwain drwy esiampl gydag ymddygiad effaith uchel, carbon isel  

Rydym yn aml yn clywed galwadau am “arweinyddiaeth” i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Er enghraifft, dywedodd David Attenborough yng nghynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2018 (COP24): “Arweinwyr y byd, rhaid i chi arwain. Yn eich dwylo chi mae parhad gwareiddiadau a’r byd naturiol yr ydym yn dibynnu arno.” Ond anaml y diffinnir union ystyr “arweinyddiaeth” – yr hyn y dylai arweinwyr ei wneud mewn gwirionedd. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar un agwedd hanfodol ar arweinyddiaeth nad yw wedi cael ei hastudio’n ddigonol: arwain drwy esiampl gydag ymddygiad carbon isel.   

Bydd cymrodoriaeth ERSC yn fy ngalluogi i ddatblygu’r ymchwil hon a’i chymryd i gynulleidfa eang, gan roi gwybod i’r arweinwyr eu hunain  sut y gallai eu dewisiadau ymddygiadol ddylanwadu ar eraill, a rhoi gwybodaeth newydd i’r cyhoedd am yr hyn y dylent ei ddisgwyl gan arweinwyr hinsawdd. Byddaf yn ysgrifennu erthyglau mewn cyfnodolion, blogiau, nodiadau briffio, ac yn rhannu’r canfyddiadau yn fwy eang.  

Yn yr ymchwil rwy’n gofyn y cwestiynau canlynol:   

  • Beth sy’n digwydd os yw gwleidyddion, enwogion ac arweinwyr busnes yn gwneud newidiadau gweladwy i’w ffyrdd o fyw eu hunain drwy hedfan llai, bwyta llai o gig, gwella effeithlonrwydd eu cartrefi, a gyrru ceir trydan?   
  • A fydd eraill yn dilyn eu hesiampl?  
  • Pa arwyddion y mae hyn yn eu hanfon am ymrwymiad yr arweinwyr i fynd i’r afael â newid hinsawdd?  
  • A all arwain drwy esiampl gyflymu’r broses o bontio i gymdeithas garbon isel?  

Yn fy PhD gwelais fod y cyhoedd yn gyffredinol yn hoff o arweinwyr sy’n “gwneud nid dweud” fel hyn, ond maent yn eithriadol o feirniadol o weithredoedd a chymhellion arweinwyr. Mewn cyfweliadau ag Aelodau Seneddol y DU (ASau), darganfyddais eu bod am arwain drwy esiampl mewn egwyddor ond eu bod yn dweud bod hynny’n anodd yn ymarferol gan y byddai’n ymddangos fel petaent yn ceisio mynd ati i greu delwedd o’u hunain fel person foesegol, ac y gallai hyn niweidio eu henw da.   

Fodd bynnag, mewn arbrawf arolwg gwelais fod arweinwyr sy’n gwneud nid dweud yn codi parodrwydd eraill i gymryd camau carbon isel, a bod arweinwyr o’r fath yn cael eu hystyried yn llawer mwy credadwy a hoffus. At hynny, gwelais fod arweinwyr â phroffil uchel sy’n gosod esiampl ymddygiadol yn gallu cael mwy o ddylanwad na ffrindiau, teulu a chydweithwyr. Mae’r ymchwil yn llywio’r ddadl am ba mor berthnasol yw gweithredu unigol yn wyneb problem fyd-eang fel newid hinsawdd. 

Ebost: WestlakeST@cardiff.ac.uk