Interniaethau yn Amgueddfa Cymru

Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 11 Hydref 2022

Mae’n bleser gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC gynnig dwy interniaeth yn Amgueddfa Cymru at ddibenion gweithio ar brosiectau sy’n ystyried ‘Datblygu pecyn cymorth ar gyfer ymchwil gweithredu cymunedol’ a ‘Datblygu canllawiau ar gyfer ymchwil dad-drefedigaethu’.

Mae’r interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (heblaw’r rhai y mae eu hinterniaeth wedi dechrau yn ystod y tri mis diwethaf neu’n dod i ben ymhen tri mis).  Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n dechrau rhwng 1 Tachwedd 2022 a 3 Ionawr 2023 am gyfnod o dri mis yn llawnamser neu gyfnod cyfatebol yn rhan-amser.

Dylid llenwi ffurflen gais a’i hanfon ar y cyd â’ch CV (dim mwy nag un ochr o ddalen A4) i Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (enquiries@walesdtp.ac.uk) erbyn y dyddiad cau, sef 5pm ar 11 Hydref 2022.

Mae disgrifiadau llawn o’r prosiectau ar gael isod.

Datblygu Canllawaiau ar gyfer Ymchwil Dadwladychu yn Amgueddfa Cymru

Datblygu Pecyn Cymorth ar gyfer Ymchwil Gweithredu Cymunedol yn Amgueddfa Cymru