Interniaeth yn Amgueddfa Cymru – angen cyflwyno cais erbyn 14 Mawrth 2022

Dyddiad Cau: Dydd Llun 14 Mawrth 2022

Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru’n falch o gynnig cyfle i fod yn intern yn Amgueddfa Cymru, a fydd yn gweithio ar brosiect sy’n edrych ar ymchwil gweithredu cyfranogol a’i defnydd yn y sector amgueddfeydd a threftadaeth i gefnogi’r broses o ddatblygu cynigion.

Mae’r interniaeth hon ar gael i unrhyw fyfyriwr sy’n cael ei gyllido gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (heblaw am y rheini y mae eu ysgoloriaeth wedi dechrau yn ystod y tri mis diwethaf neu’n dod i ben ymhen tri mis).  Rhagwelir y bydd yr interniaeth yn cael ei chyflawni o bell ac y bydd yn dechrau yng ngwanwyn 2022 am gyfnod o dri mis yn llawnamser neu am gyfnod cyfatebol yn rhan-amser.

Bydd yr interniaeth yn gyfle i gael profiad o brosesau ymchwil gweithredu cyfranogol yn y gymuned a datblygu dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio ymchwil gweithredu cyfranogol yn y sector amgueddfeydd a threftadaeth. Bydd hefyd yn gyfle i weithio gydag ystod amrywiol o randdeiliaid a chael profiad o ddatblygu cynnig ymchwil aml-bartner mawr.

Gallwch weld disgrifiad llawn o’r prosiect yn y ddogfen berthnasol.

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar y dyddiad cau.