Rhaglen Sut i Weithio gyda Busnes er Budd eich Ymchwil – dyddiad cau i gofrestru

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 13 Tachwedd 2020

Mae ymchwil sy’n sicrhau effaith yn rhywbeth a ddisgwylir yn y byd academaidd cyfoes. Mae ymchwil ym maes y Gwyddorau Cymdeithasol yn ymwneud ag effaith sy’n gwneud gwahaniaeth. Felly, dylid ystyried y gallu i ymgysylltu â busnes – boed yn fater o ymchwilio i sefydliadau neu o rannu gwybodaeth ymchwil gyda sefydliadau, yn sgil hanfodol i bob ymchwilydd goleuedig ym maes y gwyddorau cymdeithasol. Beth yw’r sgiliau fydd eu hangen arnoch o bosibl i wneud gwahaniaeth a chael effaith? Beth sydd angen i chi feddwl amdanynt wrth i chi orffen eich PhD, neu edrych am ddechrau ar gyfnod nesaf eich gyrfa fel ymchwilydd?

Mae ‘Sut i Weithio gyda Busnes er Budd eich Ymchwil’ yn rhaglen ar sut i ddefnyddio’ch ymchwil i wneud gwahaniaeth go iawn ac i fod yn wyddonydd cymdeithasol sy’n cael effaith. Mae’n rhaglen ddysgu i fyfyrwyr doethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau gyrfa gyda’r nod o roi’r gallu i chi ddeall yr heriau o ymgysylltu â busnes a rhai o’r galluoedd sydd eu hangen i wneud hynny’n effeithiol. Cyflwynir gan Ysgol Busnes Caerdydd ac Addysg Weithredol, bydd yn archwilio:

  • sut mae busnes yn defnyddio ymchwil a wneir ym maes y gwyddorau cymdeithasol
  • sut mae ymchwilwyr ym maes y gwyddorau cymdeithasol yn gweithio gyda busnes
  • manteision gweithio gyda busnes
  • y cymhlethdodau a’r anawsterau a geir wrth ddod â’r ddau fyd ynghyd.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cyfle hwn, bydd angen i ddarpar ymgeiswyr ddangos eu bod yn dod o gefndir yn y gwyddorau cymdeithasol a’u bod naill ai’n ymchwilydd ar Ddechrau Gyrfa neu Ddoethuriaeth yn y gwyddorau cymdeithasol mewn unrhyw un o’r sefydliadau yn DTP ESRC Cymru. Cynhelir y sesiwn gyntaf ar 25 Tachwedd.

I gael ffurflen mynegi diddordeb, cysylltwch â thîm IAA ESRC: (esrciaa@caerdydd.ac.uk) erbyn y dyddiad cau uchod.