Llywodraethu

Mae gan YGGCC Gyfarwyddwr, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolwr, Swyddog e-ddysgu ag Gynrthwy-ydd Gweinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd, sef sefydliad arweiniol y consortiwm PHD.

Grŵp llywio

Mae grŵp llywio yn goruchwylio a monitro cyfeiriad strategol a datblygiad YGGCC, gan sicrhau ei fod yn ategu strategaethau ymchwil y sefydliadau partner ac yn ymatebol i ddatblygiadau mewn polisi ymchwil.

Grŵp rheoli

Mae’r grŵp rheoli yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r sefydliadau partner (dau o’r sefydliad arweiniol), cynrychiolydd y cynullwyr llwybrau, cynrychiolydd myfyrwyr, yn ogystal â Chyfarwyddwr a Rheolwr PHD. Y grŵp hwn yw’r prif fecanwaith ar gyfer cynrychiolaeth barhaus y chwe sefydliad yn yr holl faterion gweithredol pwysig.

  • Dr Tom Hall (Prifysgol Caerdydd)
  • Dr Jan Ruzicka (Prifysgol Aberystwyth)
  • Dr Ross Roberts (Prifysgol Bangor)
  • Dr Lynne Evans (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
  • Dr Matthew Reed (Prifysgol Swydd Gaerloyw)
  • Dr Lucy Griffiths (Prifysgol Abertawe)
  • Yr Athro Adam Hedgecoe (MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd)
  • Yr Athro William Housley (cynrychiolydd y cynullyddion llwybrau)
  • Cynrychiolydd y myfyrwyr

Cynrychiolwyr Myfyrwyr

Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr WGSSS ar gyfer pob un o’r sefydliadau partner yn sianel hanfodol i gasglu sylwadau/syniadau gan gyd-fyfyrwyr a gyllidir gan ESRC ar draws ysgolion a llwybrau academaidd. Mae cynrychiolydd myfyrwyr arweiniol yn aelod o grŵp rheoli DTP Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen y cynrychiolwyr myfyrwyr.