Manylion llwybrau

Mae astudiaethau empirig yn y gyfraith ac astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol yn nodedig, o ran eu sylwedd a'u dyluniad, drwy eu cysylltiad agos â phryderon ac ymagweddau gwyddorau cymdeithasol. Mae cyfosod ymchwil cyfreithiol a gwyddorau gymdeithasol yn creu set unigryw o gyfleoedd. Mae gan brifysgolion Caerdydd ac Abertawe ddiwylliannau amrywiol a bywiog o ymchwil cyfreithiol, gyda'r naill a'r llall yn sgorio'n uchel iawn yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 o ran eu hallbynnau, yr amgylchedd a'r effeithiau. Yn y ddwy brifysgol, ceir enw da hirsefydlog am ymchwil yn y rhyngwyneb rhwng ysgolheictod cyfreithiol a gwyddorau cymdeithasol.

Drwy gyfuno dau leoliad, mae'r llwybr Astudiaethau Empirig yn y Gyfraith wedi cefnogi ysgoloriaethau ymchwil ar draws amrywiaeth o is-ddisgyblaethau, gan gynnwys: cyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol; addysg gyfreithiol; hawliau dynol a'r gyfraith gofal cymdeithasol oedolion/anabledd; cyfraith lloches; cyfraith camwedd a diwylliant iawndal; hawliau plant anabl a'u teuluoedd; cyfraith amgylcheddol; cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a llywodraethu; cyfraith teulu; addysg gyfreithiol; canfyddiadau o risg mewn clybiau chwaraeon trydydd sector; cymhwyso modelau gwerthoedd dynol seicoleg i benderfyniadau barnwrol; risg amgylcheddol a bancio; cymharu polisi/cyfraith tai Cymru a Lloegr; safbwyntiau cyfansoddiadol ar ddatganoli yng Nghymru. Yn ddiweddar mae Caerdydd wedi cadarnhau ei chryfder mewn astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol Affricanaidd ac wedi datblygu capasiti rhyngddisgyblaethol mewn astudiaethau rhyw, y gyfraith a gwleidyddiaeth yn ogystal â chlystyrau ymchwil empirig sy'n dod i'r amlwg mewn cyfraith fasnachol a chyfraith cwmnïau. Mae cydweithredu rhwng Caerdydd ac Abertawe yn darparu meysydd o arbenigedd wedi eu cyd-leoli, fel cyfraith amgylcheddol; hawliau plant; cyfraith droseddol; y gyfraith a datblygu; a’r gyfraith forol a masnachol.

Mae myfyrwyr ar y llwybr '1+3' yn cwblhau’r modiwl arbenigol ‘Themâu damcaniaethol ar gyfer dadansoddiad empirig yn y gyfraith’ fel rhan o raglen meistr dulliau ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae hyfforddiant pwnc-benodol a datblygu myfyrwyr yn parhau drwy gydol y ddoethuriaeth. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol mewn amrywiaeth eang o grwpiau trafod a darllen ffurfiol ac yn anffurfiol iawn, sesiynau o gwmpas y bwrdd a chyfres o seminarau yn y ddau sefydliad. Mae myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith yng nghynhadledd ymchwil ôl-raddedig Caerdydd yn y gyfraith a chynhadledd drafod Abertawe, gyda'r ddwy yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn. Anogir a chefnogir myfyrwyr hefyd i fynd i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a chyflwyno papurau ynddynt.

Proffiliau myfyrwyr