Manylion llwybrau

Mae Cymdeithaseg yn wyddor gymdeithasol graidd. Mae’n hanfodol o ran deall ymddygiad dynol a lles dinasyddion, gan gynhyrchu gwybodaeth ddefnyddiol a diagnosis o’n cyflwr sy’n llywio polisi a dealltwriaeth y cyhoedd. Bydd myfyrwyr doethuriaeth ar y llwybr cymdeithaseg yn elwa ar y cyfuniad unigryw o waith damcaniaethol blaengar, astudiaethau empirig, cyd-destun polisi, ac arloesi ac arbenigedd methodolegol.

Mae’r llwybr cymdeithaseg yn rhan o Ysgol rhyngddisgyblaethol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyrhaeddodd ymchwil cymdeithasegol yma y tri uchaf yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 y Deyrnas Unedig. Mae’r llwybr yn cynnig arbenigedd ymchwil sylweddol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

  • diwylliant, hunaniaeth a gweddnewid;
  • lle, gofod a symudedd pobl;
  • gwaith a marchnadoedd llafur;
  • dadansoddiadau bywgraffiadol a naratif;
  • cymdeithaseg gwybodaeth ac arbenigedd;
    astudiaethau iechyd,
  • salwch a llesiant;
  • cymdeithaseg data mawr a dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol; ac
  • agweddau ar ddamcaniaeth gymdeithasegol.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn ganolfan ragoriaeth gydnabyddedig ym maes datblygu dulliau ymchwil cymdeithasegol meintiol, ansoddol a chymysg.

Mae diwylliant ymchwil bywiog yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ac mae myfyrwyr ymchwil yn rhan hanfodol o hynny. Mae gan yr Ysgol enw da iawn am gyhoeddiadau rhyngwladol wedi eu hadolygu gan gymheiriaid; mae’n gartref i sawl cyfnodolyn gwyddonol cymdeithasol amlddisgyblaethol ac sy’n canolbwyntio ar ddulliau. Mae myfyrwyr ar y llwybr cymdeithaseg fel mater o drefn yn ymgysylltu â staff a myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill ac yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o ganolfannau ymchwil, grwpiau ymchwil a fforymau eraill sy’n perthyn i’r Ysgol. Mae’r ysgol yn cefnogi ac yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i’r garfan ddoethurol, gan gynnwys cinio blynyddol ymchwil ôl-raddedig (digwyddiad cymdeithasol a dathliad o gyflawniadau doethurol); cynhadledd flynyddol myfyrwyr doethurol (gan gynnwys sesiynau papur a cystadleuaeth posteri); y caffi ôl-raddedig sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr, a grwpiau darllen amrywiol sy’n cyfarfod unwaith y mis i drafod amrywiaeth o bynciau sy’n gysylltiedig ag ymchwil cymdeithasol, gwleidyddiaeth a diwylliant.

Mae myfyrwyr sydd ar y llwybr ‘1+3’ yn dilyn y radd Meistr rynddisgyblaethol mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol, ac maent yn cael lawer iawn o wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am lunio astudiaethau ymchwil effeithiol, am yr amrywiaeth o ddulliau o gasglu data sydd ar gael i’r gwyddonydd cymdeithasol ac am y prif ddulliau o ddadansoddi data o fyd y gwyddorau cymdeithasol. Mae myfyrwyr ar y llwybr cymdeithaseg hefyd yn astudio’r modiwl gorfodol pwnc-benodol ar Gysyniadau Uwch mewn Cymdeithaseg Gyfoes. Mae hyfforddiant pwnc-benodol a datblygu myfyrwyr yn parhau drwy gydol y ddoethuriaeth gydag amrywiaeth eang o grwpiau trafod a darllen, sesiynau o gwmpas y bwrdd, cyfres seminar a gweithdai dadansoddi data.

Proffiliau myfyrwyr