Manylion llwybrau

Mae economeg yn parhau i fod yn un o'r disgyblaethau gwyddorau cymdeithasol pwysicaf. Mae'r llwybr yn dwyn ynghyd arbenigedd unigryw ac enw da am ragoriaeth ymchwil mewn tri sefydliad – Caerdydd, Bangor ac Abertawe. Yn ogystal ag ehangder ar draws y ddisgyblaeth yn ei chyfanrwydd, mae macro-economeg (damcaniaethol a chymhwysol) yn faes lle ma gan Caerdydd enw arbennig o dda yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, sy'n cael ei ehangu ymhellach gan Sefydliad Julian Hodge ar gyfer Macro-economeg Gymhwysol yng Nghaerdydd. Mae Prifysgol Bangor yn arweinydd ymchwil rhyngwladol mewn Economeg Ariannol, sy'n gyson yn cael ei rhestru ymysg yr 20 sefydliad gorau yn y byd ar gyfer ymchwil bancio, a dyma gartref y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF). Mae gan Abertawe enw arbennig o dda am ymchwil mewn economeg llafur a rhanbarthol. Dyma gartref Canolfan Ymchwil Gwerthuso Marchnad Lafur Economi Cymru (WELMERC), ac mae'r Brifysgol hefyd yn bartner allweddol mewn nifer o ganolfannau ymchwil traws-sefydliadol.

Mae'r llwybr yn cynnig amgylchedd ymchwil cyfoethog ar gyfer myfyrwyr ar draws y lleoliadau, gan gynnwys: cyflwyniadau mewn seminarau PhD wythnosol; presenoldeb/cyflwyniadau yn rheolaidd mewn gweithdai ymchwil yn y gyfadran; seminarau â siaradwyr allanol yn aml; mynediad at ddigwyddiadau ymchwil; trafodaeth ymchwil Cymru-gyfan sy'n cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Prifysgol Cymru yn y Canolbarth; a chynadleddau rhyngwladol blaenllaw. Mae Bangor yn noddi'r Symposiwm Doethurol Cyfrifyddu a Chyllid Rhyngwladol (ar y cyd â phrifysgolion Leeds, Bradford, Strathclyde, Queensland, Salamanca, a Bologna) gan roi cyfle i fyfyrwyr ymchwil ac ymchwilwyr ar gamau cynnar eu gyrfa i gyflwyno eu gwaith i academyddion rhyngwladol mewn amgylchedd cefnogol ond heriol.

Mae'r llwybr yn cynnwys rhan gyffredin a addysgir dros gyfnod o ddwy flynedd, sy'n cynnwys: (i) gradd MSc gyffredin mewn economeg ym mlwyddyn un, a (ii) gradd MRes gyffredin mewn economeg uwch yn yr ail flwyddyn. Cyflwynir y naill a'r llall yn Ysgol Busnes Caerdydd. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yng Nghaerdydd, bydd staff Bangor ac Abertawe yn cadw mewn cysylltiad â myfyrwyr gydag ymweliadau bob 3 mis i drafod cynlluniau ymchwil, a bydd yr holl fyfyrwyr yn cael eu hannog i fynd i seminarau a gweithgareddau ymchwil eraill yn eu sefydliadau cartref. Ar ôl cwblhau'r rhaglen dwy flynedd (neu gyfwerth yn rhan-amser) yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn aros yn eu sefydliadau cartref (Bangor, Caerdydd ac Abertawe) ar gyfer eu hastudiaeth ymchwil dan oruchwyliaeth. Byddwn yn annog ac yn hwyluso goruchwylio ar y cyd ar draws sefydliadau lle bo'n briodol. Cefnogir meithrin carfannau drwy gynhadledd ddoethurol flynyddol dan arweiniad myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys y garfan lawn o fyfyrwyr Economeg DTP yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu cyllido drwy ddulliau mewnol ac allanol eraill.

Proffiliau myfyrwyr