Manylion llwybrau

Mae gwaith cymdeithasol, y gellir ei ddiffinio fel ymateb cymunedol i anghenion cymdeithasol, yn faes hanfodol ar gyfer gwyddorau cymdeithasol, yn enwedig yng ngoleuni’r newidiadau sylfaenol ar ‘ochr y galw’ (e.e. proffil oedran a newidiadau demograffig eraill) ac ail-gysyniadoli ar yr ‘ochr cyflenwi’ (e.e. o ran rheoleiddio a darpariaethau). Mae’r llwybr hwn yn cynnig hyfforddiant doethurol gyda phwyslais ar ymchwil meintiol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, y mae ei angen yn fawr yn y Deyrnas Unedig.

Yng Nghaerdydd mae gennym un o’r grwpiau mwyaf o fyfyrwyr doethurol gwaith cymdeithasol/gofal cymdeithasol o blith holl brifysgolion y Deyrnas Unedig, ac mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn un o’r ysgolion mwyaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig ac yn ganolfan sy’n cael ei chydnabod am ragoriaeth ei hymchwil, gan sgorio yn y tri uchaf yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Mae’r Ysgol yn darparu amgylchedd deallusol amrywiol a heriol lle mae disgyblaethau a meysydd astudiaeth yn elwa ar gyfnewid a rhyngweithio parhaus. Mae cyfuniadau rhyngddisgyblaethol ar draws amrywiaeth o brosiectau wedi eu cyllido, canolfannau ymchwil a grwpiau astudio yn nodweddion amlwg yn yr Ysgol, yn yr un modd ag effaith ac arloesi.

Mae diwylliant ymchwil bywiog yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ac mae myfyrwyr ymchwil yn rhan hanfodol o hynny. Mae gan yr Ysgol enw da iawn am gyhoeddiadau rhyngwladol wedi eu hadolygu gan gymheiriaid; mae’n gartref i sawl cyfnodolyn gwyddonol cymdeithasol amlddisgyblaethol ac sy’n canolbwyntio ar ddulliau. Mae myfyrwyr ar y llwybr Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol hefyd yn ymgysylltu â staff a myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill fel mater o drefn, ac yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o ganolfannau ymchwil, grwpiau ymchwil a fforymau eraill sy’n perthyn i’r Ysgol.

Mae’r ysgol yn cefnogi ac yn trefnu nifer o ddigwyddiadau i’r garfan ddoethurol, gan gynnwys cinio blynyddol ymchwil ôl-raddedig (digwyddiad cymdeithasol a dathliad o gyflawniadau doethurol); cynhadledd flynyddol myfyrwyr doethurol (gan gynnwys sesiynau papur a cystadleuaeth posteri); y caffi ôl-raddedig sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr, a grwpiau darllen amrywiol sy’n cyfarfod unwaith y mis i drafod amrywiaeth o bynciau sy’n gysylltiedig ag ymchwil cymdeithasol, gwleidyddiaeth a diwylliant. Yn ogystal, mae’r llwybr wedi cynnal cynhadledd gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol ddoethurol flynyddol dan arweiniad myfyrwyr ers nifer o flynyddoedd. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei arwain a’i redeg gan y myfyrwyr eu hunain, ac yn seiliedig ar eu dymuniadau a’u hanghenion.

Mae myfyrwyr ar y llwybr ‘1+3’ yn cwblhau’r modiwl arbenigol ‘Rheolaeth yn y Sector Cyhoeddus’ fel rhan o raglen Meistr Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, gan hefyd ddatblygu ehangder o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau fel rhan o’r radd Meistr ryngddisgyblaethol hon. Mae hyfforddiant pwnc-benodol a datblygu myfyrwyr yn parhau drwy gydol y ddoethuriaeth gydag amrywiaeth eang o grwpiau trafod a darllen, sesiynau o gwmpas y bwrdd, cyfres seminar a gweithdai dadansoddi data.

Proffiliau myfyrwyr