Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Manylion llwybrau
Mae'r Llwybr Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff yn seiliedig ar gysyniad amlddisgyblaethol a chynhwysol lle mae'r gwyddorau cymdeithasol yn y rhyngwyneb rhwng yr amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd chwaraeon a'r rhai sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff. Mae'r llwybr hefyd yn adlewyrchu diddordeb cyffredin gyda deall rôl chwaraeon, ymarfer corff a gweithgarwch corfforol o fewn y gymdeithas i wella bywydau unigolion ac ysgogi newid cymdeithasol.
Mae gan y tri sefydliad sy'n rhan o'r llwybr hwn enw da hirsefydlog am ragoriaeth ymchwil. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae ymchwilwyr gyda'r gorau yn y byd mewn cymdeithaseg chwaraeon ac ymarfer corff, ac, yn gyffredin â Phrifysgol Abertawe, mewn athroniaeth chwaraeon ac ymarfer corff. Ynghyd â Phrifysgol Bangor, mae pob un o'r tri yn cynnig ymchwil rhagorol ym meysydd seicoleg ac addysgeg chwaraeon ac ymarfer corff. Mae'r llwybr yn manteisio ar arbenigedd cyfun nodedig y sefydliadau partner ac ansawdd, cwmpas a chyrhaeddiad eu hymchwil i ddarparu amgylcheddau ymchwil cyfoethog ac ysgogol lle gall myfyrwyr doethurol ffynnu.
Un o gryfderau penodol y llwybr hwn yw'r gallu profedig ar gyfer cydweithredu a lleoliadau gyda phartneriaid allanol fel y gwelir mewn partneriaethau ag amrywiaeth o sefydliadau cenedlaethol, rhyngwladol a'r rhai yn y sector preifat. Mae'r rhain yn cynnwys: Bwrdd Criced Cymru a Lloegr; Athrofa Chwaraeon Lloegr; Mencap Cymru; y Weinyddiaeth Amddiffyn; Undeb Rygbi Lloegr; Chwaraeon Cymru; Llywodraeth Cymru; yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr '1+3' yn cael hyfforddiant craidd a hyfforddiant ymchwil pwnc-benodol drwy raglenni Meistr ategol. Yn ystod hyfforddiant +3, bydd myfyrwyr yn mynd i gynhadledd hyfforddiant ymchwil uwch yn flynyddol. Bydd gan bob myfyriwr DTP fynediad at weithdai a seminarau ymchwil ar-lein gan arbenigwyr sefydliadol mewn meysydd gwahanol o wyddorau cymdeithasol chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â digon o gyfle i gyflwyno eu gwaith eu hunain wrth iddo ddatblygu mewn lleoliad cefnogol ond heriol.