Manylion llwybrau

Trosolwg o’r llwybr  
Mae’r llwybr Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd yn cynnwys academyddion profiadol a goruchwylwyr ymchwil, yn ogystal â chymuned weithgar a chefnogol o ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr PhD sydd wedi’u lleoli mewn tair canolfan ymchwil sy’n canolbwyntio ar astudio iaith: y Ganolfan Ymchwil Iaith (Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe), y Ganolfan dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd (yr Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd a’r Adrannau Seicoleg ac Addysg ym Mhrifysgol Bangor) a’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Iaith a Chyfathrebu (Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd).

Mae’r llwybr yn cynrychioli arbenigedd mewn ystod eang o feysydd damcaniaethol a chymhwysol o ran ieithyddiaeth, dwyieithrwydd, a disgyblaethau cysylltiedig megis addysg, seicoleg a niwrowyddoniaeth wybyddol. Mae enghreifftiau o’r themâu ymchwil cyfredol sydd ar waith yn cynnwys y canlynol: dadansoddi disgwrs, ieithyddiaeth corpysau, caffael iaith, seicoieithyddiaeth,profion iaith, newid iaith ac ieithyddiaeth hanesyddol, iaith a’r gyfraith, amlfodolrwydd, iaith a chyfryngau newydd, meysydd arbenigol eraill a gynrychiolir gan staff yn yr adrannau cyfansoddol.

Yr ieithoedd unigol yr ymchwilir iddynt amlaf ar y llwybr yw’r Gymraeg a’r Saesneg, ond ceir hefyd waith ar ieithoedd eraill, a hynny mewn ieithyddiaeth gyffredinol ac ymchwil gymharol a thrawsieithyddol. 

Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol   
Bydd y myfyrwyr hynny y mae ganddynt ddiddordeb mewn prosiectau sy’n datblygu cyfraniadau damcaniaethol, methodolegol a chymhwysol newydd yn unrhyw un o’r rhyngwynebau rhwng ffurf, defnyddio a phrosesu iaith a chyd-destun cymdeithasol a diwylliannol iaith yn dod o hyd i gartref cefnogol ar y llwybr hwn. Mae myfyrwyr y llwybr yn dod yn rhan o ddiwylliant ymchwil cyfoethog yn eu priod ganolfan, yn ogystal ag elwa o weithgareddau ar lefel y llwybr sy’n cynnwys seminarau, cynadleddau, ysgolion haf ac ystod eang o gyrsiau hyfforddi arbenigol sy’n briodol i anghenion myfyrwyr unigol. Mae myfyrwyr ar y llwybr hwn hefyd yn ymgysylltu’n llawn â gweithgareddau dan arweiniad myfyrwyr, megis cyfranogi mewn paneli myfyrwyr-staff, cyfresi seminarau ymchwil ôl-raddedig a fforymau eraill, ac mewn digwyddiadau cymdeithasol. 

Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 
Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o gysylltiadau helaeth â chanolfannau ymchwil rhyngwladol yn Ewrop a’r tu hwnt, ac o’r nifer o berthnasoedd ymchwil yr ydym wedi’u sefydlu â sefydliadau anacademaidd yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys partneriaethau â Llywodraeth Cymru. Mae gan y myfyrwyr ar y llwybr hwn gyfle i wneud cais yn ystod eu hastudiaethau am leoliadau gyda phrifysgolion a sefydliadau partner, lleoliadau sy’n rhoi dirnadaeth a chysylltiadau iddynt â meysydd gweithgarwch a allai gynrychioli llwybrau gyrfa yn y dyfodol. Mae llawer o’r myfyrwyr ar y llwybr yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd academaidd, gan ddechrau ar lefel ôl-ddoethurol, tra bo eraill yn dod o hyd i yrfaoedd ystyrlon yn y dyfodol mewn meysydd gwaith cysylltiedig ag iaith y bu iddynt eu darganfod yn ystod eu hastudiaethau neu eu lleoliadau. Mae eraill eto yn canfod bod y sgiliau a’r profiadau trosglwyddadwy cyfoethog a feithrinwyd ganddynt o fudd mawr mewn gyrfaoedd o unrhyw ddisgrifiad. 

Cysylltiadau
Prifysgol Caerdydd – Dr Andreas Buerki – BuerkiA@cardiff.ac.uk
Prifysgol Bangor – Dr Eirini Sanoudaki – e.sanoudaki@bangor.ac.uk
Prifysgol Abertawe – Dr Vivienne Rogers – v.e.rogers@swansea.ac.uk