Manylion llwybrau

Mae deall y cyfryngau newyddion ac adloniant sy’n newid yn gyflym, a’u perthynas â cymdeithas ddemocrataidd, yn dasg hanfodol ar gyfer gwyddorau cymdeithasol. Mae rhagoriaeth fesuradwy a màs critigol yr ymchwil yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd yn darparu amgylchedd rhagorol i fyfyrwyr doethurol ddatblygu, ac mae gan y llwybr gyfraniad pwysig ac unigryw i’w wneud wrth baratoi’r genhedlaeth nesaf o’r gwyddonwyr cymdeithasol gorau.

Mae’r llwybr Newyddiaduraeth a Democratiaeth yn seiliedig ar ehangder a dyfnder ysgolheictod, sy’n cynnwys meysydd fel:

  • newyddiaduraeth dinasyddion;
  • hawliau gwybodaeth a chyfathrebu plant;
  • monitro’r cyfryngau yn fyd-eang mewn modd sy’n archwilio cynrychioliadau o fenywod yn y newyddion;
  • newyddiaduraeth gymunedol yng Nghymru;
  • y cyfryngau digidol;
  • emosiynoldeb yn y newyddion;
  • diduedd-dra yn y newyddion;
  • newyddion amgylcheddol;
  • rhyfel, gwrthdaro ac argyfyngau byd-eang;
  • newyddiaduraeth, democratiaeth a dinasyddiaeth;
  • newyddiaduraeth a hawliau dynol;
  • diogelwch newyddiaduraeth;
  • newyddion a’r argyfwng ariannol;
  • adrodd am wleidyddiaeth ar y newyddion yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, a’r Undeb Ewropeaidd;
  • ffoto-newyddiaduraeth;
  • hiliaeth, hil a chrefydd yn y cyfryngau;
  • rôl y cyfryngau mewn dadleuon ‘yr hawl i farw’;
  • newyddiaduraeth wyddonol;
  • cyfryngau cymdeithasol a gweithgarwch gwleidyddol; a
  • heriau sy’n wynebu’r cyfryngau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

Mae myfyrwyr ar y llwybr ‘1+3’ yn cwblhau’r modiwl arbenigol ‘Ymagweddau Beirniadol at Newyddiaduraeth a Democratiaeth’ fel rhan o’r rhaglen radd Meistr eang a rhyngddisgyblaethol ar Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol . Rydym hefyd yn cynnig, fel rhan o’r llwybrau ‘1+3’ a ‘+3’ , cyfleoedd ychwanegol i ymestyn hyfforddiant mewn perthynas â dulliau ansoddol a meintiol mewn newyddiaduraeth ymchwil, gan gynnwys: dylunio arolygon, holiaduron, dylunio, dadansoddi cynnwys, dadansoddiad beirniadol o drafodaethau, dadansoddi fframio, dadansoddi testunol ideolegol, ethnograffeg, dadansoddi derbyniad y gynulleidfa, cyfweliadau manwl, grwpiau ffocws, ymchwil hanesyddol ac archifol, dadansoddi polisi, dadansoddi testunau’n feirniadol, dadansoddiad gweledol a datblygu damcaniaethau. Mae ein cynhadledd ryngwladol hirsefydlog bob yn ail flwyddyn ar Ddyfodol Newyddiaduraeth yn rhoi llwyfan pwysig i’n myfyrwyr ar gyfer eu hymchwil, ac yn gyfle i rwydweithio gyda grŵp rhyngwladol o ysgolheigion sefydledig yn y maes.

Proffiliau myfyrwyr