Manylion llwybrau

Trosolwg o’r llwybr    
Mae’r llwybr Economeg yn dwyn ynghyd yr arbenigedd nodedig a’r hanes blaenorol o ragoriaeth ymchwil mewn tri sefydliad – Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe.  

Yn ogystal ag ehangder ledled y ddisgyblaeth gyfan, mae economeg feintiol yn faes lle mae Caerdydd yn mwynhau enw da cenedlaethol a rhyngwladol arbennig o uchel, enw sy’n cael ei hyrwyddo ymhellach gan ei aelodaeth yn y rhwydwaith Doethuriaeth Economeg Feintiol (QED). Mae’r QED yn rhwydwaith rhyngwladol o raglenni PhD Economeg (sy’n cynnwys Prifysgol Alicante, P. Amsterdam, P. Bielefeld, P. Caerdydd, P. Copenhagen, P. Paris 1 Panthéon-Sorbonne, P. Padua, P. Vienna). Mae’n trefnu jamborïau, ac yn hwyluso ymweliadau ymchwil a chyfnewid gwyddonol yn rhan annatod o’r hyfforddiant doethurol. Mae Bangor yn arweinydd ymchwil rhyngwladol mewn Economeg Ariannol, ac mae’n cynnal y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF), sef y ganolfan ymchwil sy’n cynnal ymchwil blaengar amserol ac arloesol mewn economeg, bancio, cyllid, cyfrifyddu a dadansoddeg data. Mae gan Abertawe hanes ymchwil blaenorol arbennig o gadarn ym meysydd macroeconomeg, microeconomeg gymhwysol, economeg ynni ac economeg ranbarthol, ac mae’n bartner allweddol yn y corff traws-sefydliadol hwnnw, Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). Yn ogystal, mae’r adran yn gartref i’r Ganolfan Ymchwil mewn Macroeconomeg a Macro-gyllid (CReMMF), sy’n dwyn ynghyd academyddion blaenllaw yn y maes ledled y DU a’r tu hwnt.  

Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol    
Mae’r llwybr yn cynnig amgylchedd ymchwil cyfoethog i’w fyfyrwyr ar draws y lleoliadau, gan gynnwys cyflwyniadau mewn gweithdai doethuriaeth wythnosol; presenoldeb/cyflwyniadau yn seminarau ymchwil rheolaidd y gyfadran; seminarau siaradwyr allanol aml; mynediad at ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ymchwil; cynulliadau ymchwil ledled Cymru a gynhelir yn Ysgol Busnes Caerdydd, megis Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Cymru (WPGRC) mewn Busnes, Rheolaeth ac Economeg. Mae Bangor yn noddi’r Symposiwm Doethurol Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol, sy’n darparu cyfle i fyfyrwyr ymchwil ac ymchwilwyr gyrfa gynnar gyflwyno eu gwaith i academyddion rhyngwladol blaenllaw, a hynny mewn amgylchedd sy’n gefnogol ond eto’n heriol. Mae CreMMF Prifysgol Abertawe yn cynnal cyfres o seminarau ar-lein ym maes Macroeconomeg sy’n fforwm ar gyfer trafodaethau ag academyddion allanol sy’n gysylltiedig â’r Ganolfan. 

Mae’r llwybr yn cynnwys rhan gyffredin a addysgir dros gyfnod o ddwy flynedd ac sy’n cynnwys: (i) gradd MSc gyffredin mewn Economeg ym mlwyddyn un, a (ii) gradd MRes gyffredin mewn Economeg Uwch yn yr ail flwyddyn. Darperir y naill a’r llall yn Ysgol Busnes Caerdydd. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yng Nghaerdydd, bydd staff Bangor ac Abertawe yn cadw mewn cysylltiad â’r myfyrwyr trwy ymweld yn rheolaidd i drafod cynlluniau ymchwil, ac anogir pob myfyriwr i fynd i seminarau a gweithgareddau ymchwil eraill yn eu sefydliadau cartref. Ar ôl cwblhau’r rhaglen dwy flynedd (neu raglen ran-amser gyfatebol) yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn aros yn eu sefydliadau cartref (Bangor, Caerdydd ac Abertawe) ar gyfer eu hastudiaeth ymchwil dan oruchwyliaeth. Byddwn yn annog ac yn hwyluso goruchwylio ar y cyd ar draws sefydliadau lle bo hynny’n briodol.

Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd  
Cefnogir y broses o feithrin carfanau trwy ystod eang o weithgareddau gwyddonol a datblygiadol, megis rhaglen ddatblygiadol Marchnad Swyddi’r Economegwyr sy’n canolbwyntio ar leoliad ôl-ddoethuriaeth mewn sefydliadau academaidd, cyrff cyhoeddus, melinau trafod, sefydliadau polisi rhyngwladol, y sector preifat/diwydiant (banciau, cwmnïau yswiriant, ymgyngoriaethau, corfforaethau, darparwyr cyfleustodau, cyrff anllywodraethol).  

Cysylltiadau
Prifysgol Caerdydd – Dr Tommaso Reggiani – ReggianiT@cardiff.ac.uk 
Prifysgol Abertawe – Dr Ansgar Wohlschlegel – a.u.m.wohlschlegel@swansea.ac.uk
Prifysgol Bangor – Prof Yener Altunbas – y.altunbas@bangor.ac.uk 

Proffiliau myfyrwyr