Aimee Morse’s Wales Centre for Public Policy Internship

Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2021, bu myfyriwr y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol, Aimee Morse (Cynllunio Amgylcheddol, Prifysgol Swydd Gaerloyw). yn ymgymryd ag interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gan weithio ar brosiect o’r enw ‘Cydweithio a gweithredu polisi ar lefel leol yng Nghymru: gwerthusiad astudiaeth achos o grŵp ffermwyr yng Ngogledd Cymru’.  Dyma fyfyrdodau Aimee ar y profiad.

Nod yr interniaeth hon oedd gwerthuso sut gallai dull cyfranogol o ddylunio arferion rheoli tir cynaliadwy, cydweithredol baratoi ffermwyr ar gyfer newidiadau yn y sector.  Wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr UE, mae polisi amaethyddol yn mynd trwy gyfnod o newid sylweddol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ddylunio Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn cefnogi ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio cynaliadwy, gyda ffocws ar dderbyn tâl am gynhyrchu nwyddau cyhoeddus. Yn ystod yr interniaeth bûm i’n gweithio gyda grŵp dan arweiniad ffermwyr yng Ngogledd Cymru oedd yn derbyn cyllid o Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i ddeall sut roedden nhw’n cynhyrchu tystiolaeth o arfer gorau ar sail profiad ac yn darparu buddion amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol i’w hardal leol. Bûm i’n cyfweld â 4 ffermwr, rheolwr prosiect y grŵp a 3 o bartneriaid y prosiect i ddarganfod sut roedden nhw wedi gweithio gyda’i gilydd ar eu cais ac wrth weithredu arferion mwy cynaliadwy.

Fy nod oedd sicrhau dealltwriaeth o sefyllfa polisi amaethyddol yng Nghymru er mwyn i mi allu ei chymharu â’m canfyddiadau o ymchwil a wneuthum yn Lloegr. Roedd hyn yn golygu cynnal cyfweliadau lled-strwythuredig gyda ffermwyr yng ngogledd Cymru.  Roeddwn yn ymwybodol y byddai’r interniaeth yn digwydd yn rhithwir, felly roeddwn wedi paratoi i weithio o bell ar hyd y cyfnod ac wedi trafod mynediad i’r systemau TG gofynnol cyn fy dyddiad cychwyn.

O ystyried fy mod wedi cael cyfle i baratoi i ymgymryd â’r interniaeth o bell, llwyddais i gyflawni nodau fy mhrosiect gwreiddiol. Roedd y grŵp y bûm yn gweithio gydag ef yn barod iawn eu cymwynas ac roedd 4 o’u haelodau yn fwy na pharod i gael cyfweliad ffôn. Rhoddodd eu rheolwr prosiect gefnogaeth wych trwy gydol y broses.  Roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn wych. Er nad oeddwn erioed wedi bod yn eu swyddfa, sicrhaodd y tîm fy mod yn cael fy nhrin fel un ohonyn nhw o’r diwrnod cyntaf, gan fy ngwahodd i gyfarfodydd a threfnu sesiynau un i un er mwyn i mi ddod i adnabod pobl. Rwy’n ddiolchgar am y croeso cynnes ac arweiniad fy ngoruchwyliwr a’r Tîm Ymchwil trwy gydol fy lleoliad.

Bydd canfyddiadau’r prosiect hwn yn cael eu cyfleu mewn adroddiad prosiect, briffiad polisi a phostiad blog ar y pwnc.  Mae allbynnau pellach yn cynnwys postiad blog ar fy mhrofiad fel intern a phodlediad yn seiliedig ar Weledigaeth Cymru Wledig. Bydd yr allbynnau ar gael yn wcpp.org.uk ym mis Mehefin.

Rwy’n dal i fod mewn cysylltiad â’m goruchwyliwr yn y Ganolfan a byddwn yn trafod sut gellir ymgorffori’r gwaith a gwblheais yn y Ganolfan yn fy PhD.  Mae’r interniaeth wedi bod yn gyfle i ddatblygu fy meddyliau ar gyfer fy PhD yn fwy cyffredinol; bellach mae gen i fwy o werthfawrogiad o’r broses o lunio polisi a’r llenyddiaeth gysylltiedig. Mae hyn yn rhywbeth nad oeddwn wedi cyffwrdd ag ef yn fanwl iawn yn fy ymchwil PhD hyd yn hyn; fodd bynnag, rwyf bellach yn sylweddoli pa mor bwysig yw bod yn ymwybodol ac yn gyfoes o ran newidiadau polisi a’r fframweithiau a ddefnyddir ar gyfer gwneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod hwn o newid polisi amaethyddol.

Roedd gweithio gyda’r Tîm Ymchwil yn rhoi cyfle i mi feddwl sut gallwn i gymhwyso fy ngalluoedd presennol mewn tîm newydd. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth gynllunio a chyflawni prosiectau tymor byr ac wrth rannu fy ngwaith â chynulleidfa ehangach. Rwyf wedi cael amser i ddatblygu sawl sgil allweddol yn ystod fy interniaeth ac rwy’n edrych ymlaen at eu defnyddio wrth i mi barhau â’m hymchwil PhD.

Rhoddodd yr interniaeth gipolwg i mi ar feysydd polisi a thystiolaeth.  Rwy’n fwy ymwybodol o’r swyddi a gynigir yn y llywodraeth a chyrff anllywodraethol sy’n ymwneud ag ymchwil a chyngor polisi, a gallai hynny fod yn rhywbeth y bydda i’n ei ystyried ar ôl imi gwblhau fy PhD.

Ar y cyfan, cefais brofiad interniaeth da iawn a does dim llawer yn dod i’r meddwl o ran gwelliannau! Roedd cefnogaeth a chyfathrebu da bob amser, a hynny o ran fy mhrosiect a gwaith ehangach y Ganolfan. Roeddwn i’n cael bod defnydd y Ganolfan o Teams ar gyfer sgyrsiau a diweddariadau yn wych hefyd. Fel mae fy ngoruchwyliwr a minnau eisoes wedi trafod, bydd cyfarfod yn gynharach yn yr interniaeth i drafod allbynnau a fformatio yn ddefnyddiol ar gyfer interniaid yn y dyfodol.

Roedd ymgymryd â’r interniaeth yn brofiad gwych, ac yn un y byddwn yn ei argymell yn fawr i’r rhai sy’n ystyried ymgeisio. Bydd siarad â’ch darpar oruchwyliwr cyn gwneud cais yn eich helpu i ddatblygu’ch cais a darganfod a oes lle i’r prosiect rydych chi’n ei gynnig. Mae’n gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau ymhellach a gweithio ar rai allbynnau PhD ychwanegol.