Bod yn academydd ym maes Demograffeg: dosbarth meistr

Loading Map....

lawrlwytho digwyddiad yn fformat iCal
0

Trwy'r Dydd, Dydd Mercher 26 Chwefror 2020

Lle: LSE PhD Academy, Lionel Robbins Building, London.

Mae Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol ESRC Arfordir y De ac Ysgol Economeg Llundain (LSE), mewn cydweithrediad â Chymdeithas Astudiaethau Poblogaeth Prydain, yn gwahodd myfyrwyr demograffeg i ddosbarth meistr a drefnir ar y cyd o’r enw: “Bod yn academydd ym maes Demograffeg: dosbarth meistr i fyfyrwyr PhD ar heriau data ac adolygiadau gan gymheiriaid”.

Mae’r dosbarth meistr ar gyfer 30 o fyfyriwr ar y mwyaf, a bydd y lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Bydd cyfnod cychwynnol (hyd at ddydd Gwener 13 Rhagfyr 2019) pan roddir blaenoriaeth i fyfyrwyr a ariennir gan ESRC; ar ôl hynny, bydd y lleoedd sy’n weddill yn cael eu hysbysebu i fyfyrwyr PhD ledled y DU.

Os hoffech chi gadw lle, cofrestrwch trwy Eventbrite a defnyddiwch y cyfrinair: Demography2020.