2:00 y.p. - 3:00 y.p., Dydd Mawrth 28 Gorffennaf 2020
Mae Ysgol y Gyfraith Efrog yn cynnal gweminar sy’n rhoi trosolwg o’r REF gan gynnwys:
- beth yw hwn a pham mae’n bwysig i sefydliadau ac adrannau
- y tri phrif faes: allbynnau, effaith ac amgylchedd ar gyfer REF 2021
- y meini prawf ar gyfer rhagoriaeth
- yr hyn mae’n rhaid i gyflwyniad REF gan adran ei gynnwys
- beth mae’n ei olygu i staff unigol mewn adrannau
- rhai o’r goblygiadau ar gyfer recriwtio i swyddi academaidd
- sut y gallai deall y REF lywio a gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth
- sut y gallai deall y REF eich cynorthwyo mewn gyrfaoedd y tu allan i’r byd academaidd.
Mae ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig yn benodol ac mae’r un mor berthnasol i’r Gyfraith a disgyblaethau eraill y Gwyddorau Cymdeithasol neu’r Celfyddydau a’r Dyniaethau. Bydd y seminar yn cynnwys cyflwyniad 25-30 munud ac yna cynhelir sesiwn Holi ac Ateb 20-25 munud. Os ydych chi am ddod ond yn methu gwylio’n fyw, cofrestrwch i weld y recordiad yn ddiweddarach.
Rhagor o fanylion a chofrestru ar-lein.