Dyddiad Cau: Dydd Llun 3 Gorffennaf 2023
Mae’n bleser gan PHD Cymru gynnig cyfle interniaeth gydag Amgueddfa Cymru, i weithio ar brosiect i ddatblygu “Cynllun Gweithredu Sgiliau Crefftau Treftadaeth”. Ar hyn o bryd nid oes polisi cynhwysfawr ar gyfer cadw neu ailsefydlu sgiliau crefft treftadaeth yn Amgueddfa Cymru. Mae risg o golli sgiliau yn fuan oherwydd ymddeoliad staff, ac angen datblygu darpariaeth arloesol i sicrhau bod y sgiliau gwerthfawr hyn yn cael eu trosglwyddo.
Mae hwn yn gyfle i ymchwilydd PhD yn y gwyddorau cymdeithasol sydd â phrofiad o gynnal adolygiadau llenyddiaeth, cyfweliadau a/neu weithdai a diddordeb proffesiynol neu bersonol yn y sector treftadaeth.
Yn y prosiect ymchwil hwn, bydd myfyriwr yn cael y cyfle i gymhwyso ei set sgiliau i:
- ddadansoddi mentrau blaenllaw yn y sector
- gweithio ar y cyd â staff a chrefftwyr Amgueddfa Cymru i ddatblygu a deall yn well y ddarpariaeth hyfforddi bresennol i ddatblygu polisi a “Chynllun Gweithredu Sgiliau Crefftau Treftadaeth”.
Yn fewnol, bydd y Cynllun Gweithredu hwn yn adeiladu ar bolisïau, arferion a chynlluniau olyniaeth sy’n bodoli eisoes i wella gwaith Amgueddfa Cymru, a chreu gwahaniaeth, ar draws amrywiaeth o grefftau treftadaeth Cymru. Yn allanol, bydd y gwaith hwn yn cael ei ledaenu drwy rwydweithiau fel y Gymdeithas Crefftau Treftadaeth ac yn llywio arferion treftadaeth yng Nghymru, y DU ac Ewrop.
Mae’r interniaeth hon ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan PHD Cymru ESRC (heblaw am y rheini y mae eu hysgoloriaeth wedi dechrau yn ystod y tri mis diwethaf neu’n dod i ben ymhen tri mis). Rhagwelir y bydd yr interniaeth yn cychwyn ddydd Llun 1 Hydfref 2023 am gyfnod o 3 mis yn amser llawn neu am gyfnod cyfatebol yn rhan-amser.
Ceir disgrifiad llawn o’r prosiect yn y ddogfen
Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar y dyddiad cau.