Dyddiad Cau: Dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023
Mae PHD Cymru yn falch o gynnig 3 cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, ar gyfer gweithio ar brosiectau penodol sy’n ymdrin ag ystod o bynciau fel y’i nodir yn y disgrifiadau prosiect isod.
Mae’r interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a ariennir gan PHD ESRC Cymru (heblaw am y rheiny sydd o fewn tri mis cyntaf neu olaf eu cyfnod o fod yn fyfyriwr). Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n dechrau yn ystod mis Ionawr 2024 am gyfnod o 3-6 mis (ar sail amser llawn neu am gyfnod cyfwerth â rhan-amser). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael estyniad cyfwerth â hyd yr interniaeth ar gyfer eu PhD.
Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfleoedd i greu effaith drwy gyfrannu at waith y llywodraeth, y cyfle i feithrin perthnasau y tu hwnt i’r byd academaidd, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn amgylchedd polisi.
Mae disgrifiadau llawn o’r prosiect ar gael yn y dogfennau atodedig:
Disgrifiadau Interniaeth
Gwella Llywodraeth Leol
Hyd: 6 mis
Prosiect: Bydd y prosiect yn cynnwys cynnal adolygiad o’r adroddiadau hunanasesu statudol newydd a gynhelir gan awdurdodau lleol Cymru, ynghyd â chyfres o gyfweliadau. Y nod fydd ystyried a yw’r broses o gynnal yr hunanasesiadau yn annog diwylliant o welliant parhaus o fewn y cyrff hynny.
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS).
Dadansoddi data gwirfoddoli
Hyd: 3 mis
Prosiect: Bydd y interniaeth hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddio data hydredol o safbwynt Cymru o Understanding Society. I archwilio tueddiadau gwirfoddoli hirdymor ymhlith nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig (e.e. rhyw, ethnigrwydd ac oedran).
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn tîm Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol sydd, fel rhan o Is-adran EPCES, yn darparu cefnogaeth ddadansoddol i faes polisi Cymunedau a’r Trydydd Sector.
Dadansoddi’r defnydd o ofal plant dros amser gan ddefnyddio data gan Understanding Society
Hyd: 3 mis
Prosiect: Bydd y interniaeth hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddio data hydredol o safbwynt Cymru o Understanding Society. I archwilio tueddiadau gwirfoddoli hirdymor ymhlith nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig (e.e. rhyw, ethnigrwydd ac oedran).
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn tîm Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol sydd, fel rhan o Is-adran EPCES, yn darparu cefnogaeth ddadansoddol i faes polisi Cymunedau a’r Trydydd Sector.
Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar y dyddiad cau.