Manylion llwybrau

Trosolwg o’r llwybr  
Partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe yw’r llwybr Astudiaethau Cymdeithaseg a Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae’r llwybr yn adlewyrchu dull traws Cymru yr WGSSS o ddarparu hyfforddiant a meithrin carfanau. Mae hyn yn darparu ar gyfer arloesedd mewn hyfforddiant ymchwil a meithrin gallu trwy gyfrwng ystod o gyfleoedd rhwydweithiol sy’n cael eu gwireddu o ganlyniad i bartneriaethau a chydweithio. Mae’r llwybr wedi’i gysylltu â sefydliadau, canolfannau a grwpiau ymchwil allweddol sydd wedi’u lleoli ar draws sefydliadau Cymru (e.e. WISERD), ac yn sail iddo y mae cyfleoedd ar gyfer goruchwyliaeth gan gymdeithasegwyr ac arbenigwyr academaidd sy’n gweithio ym maes astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg ac a gydnabyddir yn rhyngwladol. 

Cefnogir y llwybr gan allu ac arbenigedd ymchwil sylweddol ar draws ystod o themâu a phynciau ymchwil sy’n cynnwys y canlynol: astudio dyfodol cymdeithasol-ddigidol a chymdeithas, goblygiadau cymdeithasol a moesegol biofeddygaeth, gwyddoniaeth, cymdeithas ac arbenigedd, amrywiaeth, cynhwysiant ac anghydraddoldebau cymdeithasol, cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd planedau, ac astudio lle a chymuned.   


Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol   
Mae’r llwybr yn darparu hyfforddiant uwch mewn dulliau meintiol ac ansoddol, ethnograffeg, arloesi methodolegol, effaith polisi, damcaniaeth gymdeithasol, a dulliau cyfoes o ddeall gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae’r llwybr yn integreiddio cyfleoedd ar gyfer cyfranogi mewn digwyddiadau ymchwil rheolaidd, mewn cynhadledd ôl-raddedig flynyddol, ac mewn ystod o weithgareddau ychwanegol a gynigir mewn diwylliant, rhwydwaith ac amgylchedd ymchwil ffyniannus a rhyng-gysylltiedig sy’n cael ei gefnogi ledled y sefydliadau sy’n cymryd rhan. Yn ogystal â hyn, mae’r llwybr yn darparu ystod o gyfleoedd rhyngwladol a feithrinir trwy broffil myfyrwyr ymchwil amrywiol a rhyngwladol, cysylltiadau ymchwil sefydledig ledled Ewrop, UDA, De-ddwyrain Asia a’r De Byd-eang, a diwylliant ymchwil sydd wedi’i gyfeirio at Gymru, y DU a’r tu hwnt. Mae cyfranogiad mewn cynadleddau rhyngwladol, a chefnogaeth iddynt, sy’n cynnwys y cynadleddau a noddir gan ASA, AAS a’r BSA a chydweithrediad ymchwil rhyngwladol a ariennir, yn parhau i fod yn nodwedd allweddol o’r gweithgarwch a’r diwylliant ymchwil sy’n sail i’r llwybr ac i’r gallu i’w wireddu trwy oruchwyliaeth arbenigol a chyfleoedd a chymorth ehangach o ran hyfforddiant ymchwil. 


Cyfnewid Gwybodaeth a Gyrfaoedd 
Caiff cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth eu gwella trwy gysylltiadau â’r llywodraeth, sefydliadau cyhoeddus, y sector gwirfoddol a sefydliadau masnachol. Mae cyfleoedd ar gyfer lleoliadau yn achos rhai o’r sefydliadau hyn (e.e. Llywodraeth Cymru), ochr yn ochr â chyfleoedd ymgysylltu byrrach, yn cael eu hwyluso fel nodwedd reolaidd o’r diwylliant a’r amgylchedd ymchwil a feithrinir gan y llwybr a’r WGSSS. Mae’r llwybr yn darparu cyfle a phorth rhagorol ar gyfer gyrfa academaidd, gyrfaoedd ymchwil yn y llywodraeth a’r gwasanaeth sifil, cyflogaeth gan sefydliadau anllywodraethol, rheoli gwasanaethau cyhoeddus ar lefel uwch, a gwaith yn y sector masnachol. 

Cysylltiadau
Prifysgol Caerdydd – Prof William Housley – housleyw@cardiff.ac.uk
Prifysgol Bangor – Dr Robin Mann – r.mann@bangor.ac.uk
Prifysgol Abertawe – Dr Steve Garner – s.j.garner@swansea.ac.uk
Prifysgol Abertawe – Dr Krijn Peters – K.Peters@Swansea.ac.uk