Cynllunio Amgylcheddol
Studentships
Manylion llwybrau
Cynllunio Amgylcheddol – Prifysgol Swydd Gaerloyw – Prifysgol Caerdydd
Mae cynllunio amgylcheddol yn nodedig o ran archwilio’n feirniadol dimensiwn gofodol ymyriadau mewn bywyd cymdeithasol ac economaidd ar amrywiol raddfeydd gwahanol. Mae rhyngweithio deinamig elfennau trefol a threfoli, ac ad-drefnu gwledigrwydd, yn themâu amlwg. Mae’r prif faterion yn cynnwys:
- gofynion newidiol ar strwythurau llywodraethu ar gyfer dinasoedd a rhanbarthau
- natur a chanlyniadau systemau cynhyrchu a defnyddio bwyd
- pwysau ar adnoddau gwledig
- goblygiadau mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ar gyfer cynhyrchu ynni, trosglwyddo a defnyddio.
Mae’r llwybr cynllunio amgylcheddol yn gydweithrediad rhwng Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymunedau Prifysgol Swydd Gaerloyw. Barnwyd yn gyson bod ymchwil Caerdydd yn rhagorol ar draws amrywiaeth eang o themâu perthnasol; mae’n canolbwyntio’n benodol ar leoliadau trefol, ynghyd ag elfennau eraill. Mae Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymunedau Prifysgol Swydd Gaerloyw yn enwog am ei ymchwil ragorol o ran astudiaethau bwyd-amaeth a materion gwledig. Mae cydweithio yn cryfhau’r ddau sefydliad, gan alluogi archwiliadau mwy eglur a chydlynol o faterion cyfoes sydd yn rhyngddisgyblaethol, yn torri ar draws lleoliadau trefol a gwledig a herio’r ffordd mae cefn gwlad a threfi’n cael eu hadeiladu.
Bydd myfyrwyr yn elwa’n fawr ar gysylltiadau niferus y llwybr â gwahanol ganolfannau ymchwil, prosiectau ymchwil yn y Deyrnas Unedig, Ewrop ac yn rhyngwladol, a sefydliadau anacademaidd. Ar gyfer myfyrwyr ar y llwybr ‘1+3’, mae’r modiwlau dewisol pwnc-benodol yn cynnwys: Polisi amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd; Rheoli amgylcheddol; Cynllunio ar gyfer cynaliadwyedd; Ymddygiad amgylcheddol – dinasyddion, defnyddwyr a chymunedau; a Bwyd lleol a datblygu cynaliadwy. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa ar ddiwylliant ymchwil bywiog lle mae myfyrwyr llawn amser a rhan amser yn chwarae rhan lawn. Drwy gydol y ddoethuriaeth, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn diwrnodau cwrdd i ffwrdd blynyddol, gydag o leiaf ddau ddigwyddiad (un yng Nghaerdydd ac un ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw) yn gyfle i gyflwyno papurau neu baratoi posteri. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i fynd i ddigwyddiadau hyfforddi lefel uwch yn y ddau sefydliad, fel ysgol aeaf Y Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Cymunedau, a gweithdai ymagweddau uwch, gan hefyd elwa ar gyfraniad cyrff proffesiynol perthnasol at y digwyddiadau hyn.