Manylion llwybrau

Trosolwg o’r llwybr 
Mae’r llwybr Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol yn mynd i’r afael â heriau’r byd go iawn, gan gynnwys tlodi, anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, a hynny trwy gefnogi’r myfyrwyr i ddatblygu dirnadaeth a gwybodaeth i wella ymarfer a pholisi. Mae’r llwybr yn cwmpasu ystod gyfan o weithgareddau ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a pholisi cymdeithasol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd, diogelu ac amddiffyn plant, hawliau plant, gweithio gyda chymunedau amrywiol, pobl hŷn, dementia, gwaith gofal di-dâl, datblygu cymunedol, pontio’r cenedlaethau.

Mae’r llwybr yn cynnwys pedair prifysgol yng Nghymru (Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Abertawe), yn ogystal â sawl canolfan ymchwil flaenllaw megis CASCADE (ar gyfer gofal cymdeithasol i blant), CARE (ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion), y Ganolfan Economeg Iechyd a Meddyginiaethau, a’r Ganolfan ar gyfer Newid Cymdeithasol. Bydd y llwybr o ddiddordeb i bob myfyriwr o gefndiroedd gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a pholisi cymdeithasol, a’r rhai o ddisgyblaethau eraill sydd â diddordeb yn y themâu ymchwil a amlinellir uchod.  

Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol  
Bydd pob myfyriwr ar y llwybr hwn yn elwa o ddiwylliannau ymchwil dynamig a lleoliadau ôl-raddedig cefnogol yn unrhyw un o’r pedair prifysgol. Bydd y myfyrwyr yn gallu cael mynediad at ystod eang o hyfforddiant, datblygiad a chyfleoedd cymdeithasol ledled yr holl SAU, sy’n cynnwys cyd-gynllunio a chyd-gynhyrchu ymchwil, gweithio gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau, gofalwyr a rhanddeiliaid eraill, diogelu, amddiffyn plant a hawliau plant, cyf-weld ysgogiadol, hap-dreialon dan reolaeth, ynghyd â dulliau a methodolegau gwerthuso eraill mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol a pholisi cymdeithasol, dulliau meintiol, y modd i weithio gyda data cysylltiol, methodoleg ryngddisgyblaethol, datblygu ymyriadau a threialu, a datblygu cymunedol. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr ar y llwybr hwn hefyd yn cael mynediad i’r ciniawau blynyddol i ymchwilwyr ôl-raddedig, i gynadleddau myfyrwyr doethurol, i gaffi ôl-raddedig a gynhelir gan fyfyrwyr, ac i ysgolion haf, grwpiau darllen, a seminarau a gweithdai ffurfiol ac anffurfiol. 

Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 
Bydd myfyrwyr ar y llwybr hwn yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth aml gydag awdurdodau lleol, y llywodraeth ganolog a Llywodraeth Cymru, a phartneriaid yn y trydydd sector. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r llwybr hwn i ddoethuriaeth mewn sefyllfa dda i hyrwyddo eu gyrfaoedd yn rolau academyddion ac ymchwilwyr gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a pholisi cymdeithasol, yn ogystal ag mewn amrywiaeth o rolau gwahanol i lywodraethau lleol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a’r trydydd sector a sefydliadau cysylltiedig. 

Cysylltiadau
Prifysgol Caerdydd – Dr Sophie Hallett – HallettS1@cardiff.ac.uk
Prifysgol Bangor – Dr Diane Seddon – d.seddon@bangor.ac.uk
Prifysgol De Cymru – Prof Palash Kamruzzaman – palash.kamruzzaman@southwales.ac.uk
Prifysgol Abertawe – Dr Christala Sophocleous – c.sophocleous@swansea.ac.uk
Prifysgol Abertawe – Dr Tracey Maegusuku-Hewett – T.Maegusuku-Hewett@Swansea.ac.uk

Proffiliau myfyrwyr