Manylion llwybrau

Mae’r llwybr hwn yn adlewyrchu’r methodolegau soffistigedig a thrwyadl a ddatblygwyd ar gyfer ymchwilio i’r byd gwleidyddol, fel rhan annatod o gyd-destunau disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol clir.

Mae cryfder sylweddol y llwybr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn deillio o’i gyfansoddiad, gan annog cydweithredu rhwng yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth a’r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cyfuno cryfderau ymchwil ategol, gan gynnwys

  • cysylltiadau rhyngwladol a damcaniaeth wleidyddol,
  • gwleidyddiaeth Cymru a’r Deyrnas Unedig a pholisi cyhoeddus,
  • diogelwch (gan gynnwys seiber ddiogelwch a diogelwch niwclear), strategaeth a deallusrwydd,
  • Gwleidyddiaeth ranbarthol a diogelwch (Ewrop, y Dwyrain Canol, Rwsia,
  • Tsieina, Affrica, America Ladin ac Unol Daleithiau America),
  • gwleidyddiaeth ôl-drefedigaethol,
  • gwleidyddiaeth rhywedd,
  • gwleidyddiaeth amgylcheddol,
  • heriau yn ystod ac ar ôl gwrthdaro, a
    gwleidyddiaeth a’r gyfraith (domestig a rhyngwladol).

Rydym yn unigryw o ran ehangder arbenigedd pynciau a dulliau sydd ar gael a’r dulliau rhyngddisgyblaethol helaeth y mae ein myfyrwyr yn cael cyfle i ymwneud â nhw.

Mae myfyrwyr sy’n dilyn llwybr 1+3 yn dilyn gradd Meistr hyfforddiant sy’n ymgorffori hyfforddiant ymchwil pwnc-benodol a gwyddorau cymdeithasol yn ehangach. Maent yn elwa ar ddiwylliant ymchwil bywiog y llwybr, gan gynnwys ymgysylltu parhaus â phryderon damcaniaethol a methodolegol craidd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol; cymhwyso dulliau ymchwil drwy seminarau ymchwil ar gyfer staff a myfyrwyr; cyflwyniad seminar PhD i gyfoedion a staff; siaradwyr gwadd academaidd; siaradwyr gwadd sy’n ymarferwyr; dod i gysylltiad ag ymchwil ryngddisgyblaethol mewn rhaglenni darlithoedd a seminarau ehangach yn yr Ysgol a’r Brifysgol; ac, yng Nghaerdydd, wythnos sgiliau ymchwil ôl-raddedig yn yr ail semester. Mae’r gynhadledd flynyddol ar y cyd o waith doethurol sydd ar y gweill yn gyfle i ddatblygu’r gwaith o gymhwyso dulliau ymchwil a’r gallu i gyfathrebu ymchwil. Mae myfyrwyr hefyd yn datblygu eu galluoedd drwy gynhyrchu blog llwybr dan arweiniad myfyrwyr.

Mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i ymchwil ôl-ddoethurol neu swyddi darlithio ledled y Deyrnas Unedig a ledled y byd; neu’n defnyddio eu hyfforddiant gwyddorau cymdeithasol i fynd ar drywydd gyrfaoedd y tu hwnt i’r byd academaidd: ym maes cyfraith gyfansoddiadol, fel cynghorwyr arbenigol i Lywodraeth Cymru, yn adrannau gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig (fel y Swyddfa Dramor a’r Weinyddiaeth Amddiffyn), mewn sefydliadau anllywodraethol yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill, gyda Llywodraeth Canada ac fel ymchwilwyr seneddol yn y Deyrnas Unedig ac mewn mannau eraill.

Proffiliau myfyrwyr