Manylion llwybrau

Mae Canolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Iaith Prifysgol Abertawe yn paru cydnawsedd â darpariaeth ategol ac unigryw. Mae Abertawe yn arbenigo mewn profion iaith a mynegiant yn y cyfryngau a'r cof. Mae Caerdydd yn cynnig ieithyddiaeth gymdeithasol (yn enwedig amrywiad), gramadeg swyddogaethol, iaith a'r gyfraith (yn enwedig trafodaethau mewn llys barn a rhyngweithio rhwng yr heddlu a lleygwyr), cysylltiadau geiriol, iaith fformiwläig, iaith a heneiddio, gan gynnwys rhyngweithio â dementia, cyfryngau amlfodd, gan gynnwys nofelau a chomics graffig ac ieithyddiaeth corpws. Gan hynny, lleolir y llwybr mewn canolfan ddeinamig ar gyfer datblygu damcaniaethau newydd ar ryngwyneb ffurfiau iaith, swyddogaethau, defnydd a phrosesu, ac ieithyddiaeth sgyrsiol ar sail corpws.

Mae'r llwybr ieithyddiaeth yn rhan o amgylchedd ymchwil cyfoethog, a gafodd ei gydnabod yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 am ei ansawdd uchel iawn, ac sy'n cynnwys nifer o brosiectau ymchwil mawr sy'n cael eu cyllido'n allanol. Mae'n cynnig cyfleoedd i'r holl fyfyrwyr, fel hyfforddiant ar ddadansoddi sgyrsiau, dyfnhau dealltwriaeth o gyfoeth a photensial ymagweddau damcaniaethol a thrwy gyfrwng ieithyddiaeth at ddadansoddi cynnwys. Mae hyfforddiant ieithyddiaeth corpws hefyd ar gael, sy'n fodd o archwilio cyrff mawr o destun am batrymau.

Mae myfyrwyr ar y llwybr hwn yn ymgysylltu'n llawn mewn gweithgareddau ymchwil ehangach, gan gynnwys cyfranogiad ymrwymedig yn ein pwyllgor ymchwil, panel y staff a'r myfyrwyr, cyfres seminarau ymchwil ôl-raddedig a fforymau eraill, ac mewn digwyddiadau cymdeithasol, sydd, fel y gynhadledd ymchwil i ôl-raddedigion dros yr haf, wedi eu trefnu gan y myfyrwyr eu hunain.

Mae myfyrwyr ar y llwybr '1+3' yn cwblhau'r rhaglen Meistr arbenigol mewn ymchwil i iaith a chyfathrebu sy'n cynnwys enghreifftiau o gysyniadau a thechnegau craidd sy'n canolbwyntio ar ieithyddiaeth. Mae hyfforddiant pwnc-benodol a datblygu myfyrwyr yn parhau drwy gydol y ddoethuriaeth, gan gynnwys dwy gynhadledd PhD flynyddol gyda gwesteion allanol arbenigol, sy'n darparu adborth i fyfyrwyr ar gynnwys a chyflwyniad eu hymchwil.

Proffiliau myfyrwyr