Manylion llwybrau

Mae'r llwybr Rheoli a Busnes yn cyfuno tri sefydliad i gynnig amrywiaeth aruthrol a chyfuniad o gryfderau sylweddol a methodolegol. Mae'r llwybr yn cynnwys amrywiaeth o themâu ymchwil ym meysydd marchnata a strategaeth, bancio, cyfrifyddu a chyllid, logisteg a gweithrediadau rheoli, a rheoli, cyflogaeth a threfn; pob un yn seiliedig ar gryfder ymchwil a phrofiad aelodau o'r cyfadrannau ym mhrifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor. Mae'r cydweithio hwn rhoi rhagor o fynediad i fyfyrwyr at ymchwilwyr blaenllaw, gan hefyd gynnig ehangder o gysylltiadau a phrofiadau iddynt, a'u galluogi i rwydweithio o fewn carfan mwy o faint a gweld eu hymchwil mewn cyd-destun disgyblaethol hynod eang.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn elwa ar arbenigedd rhyngwladol cydnabyddedig mewn nifer o feysydd, gan gynnwys: gwerth cyhoeddus; damcaniaethu ôl-strwythurol a realydd beirniadol; cyfrifyddu a rheoli; cadwyni cyflenwi priodol; ymddygiad defnyddwyr. Mae Ysgol Busnes Bangor yn canolbwyntio ar fancio a chyllid (credyd ac ansicrwydd yn benodol), rheolaeth feirniadol a chyfathrebu corfforaethol, yn enwedig cysylltiadau â sefydliadau/rhanddeiliaid. Mae gan Ysgol Rheolaeth Abertawe enw da yn rhyngwladol ym meysydd ymchwil arloesi digidol ac ymddygiad sefydliadol, a rheoli adnoddau dynol.

Mae myfyrwyr ar y llwybr '1+3', fel rhan o'u rhaglen Meistr, yn astudio modiwl mewn dulliau ymchwil uwch sy’n benodol i’w disgyblaeth ymchwil ar y cyd â myfyrwyr sy'n cael eu haddysgu gan staff ar draws y tri sefydliad. Mae hyfforddiant pwnc-benodol a datblygu myfyrwyr yn parhau drwy gydol y Ddoethuriaeth. Ar bob cam, mae myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol mewn amrywiaeth eang o grwpiau trafod a darllen, sesiynau o gwmpas y bwrdd, cyfres o seminarau a gweithdai dadansoddi data. Anogir a chefnogir myfyrwyr i fynd i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a chyflwyno papurau ynddynt.

Proffiliau myfyrwyr