Studentships

Manylion llwybrau

Yn y maes hollbwysig hwn mewn ymchwil gwyddorau gymdeithasol, mae llwybr DTP Cymru yn cynnig màs critigol ac amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol cryf. Mae’r llwybr yn pontio rhwng Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SOCSI) a’r Adran Troseddeg yn Abertawe. SOCSI yw un o'r ysgolion mwyaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n ganolfan sy’n cael ei chydnabod am ragoriaeth ei hymchwil. Yn Abertawe, mae troseddeg yn rhan o Goleg y Gyfraith a Throseddeg, gan ychwanegu elfennau rhyngddisgyblaethol ategol mewn astudiaethau cyfreithiol, Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, a'r ganolfan gydweithredol ar gyfer Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg.

Yng Nghaerdydd, mae sylw hirsefydlog ar droseddau trawswladol a chorfforaethol, a rheoleiddio hynny, ynghyd â phlismona a llywodraethu diogelwch. Mae'r Ysgol hefyd yn gartref i'r Ganolfan Troseddau, Cyfraith a Chyfiawnder, Sefydliad Gwyddorau'r Heddlu y Brifysgol, Athrofa'r Brifysgol ar gyfer Troseddu a Diogelwch, y Ganolfan ar gyfer cyfathrebu Ffynhonnell Agored, Dadansoddi ac Ymchwil a'r Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol. Mae SOCSI hefyd yn rhan o Gonsortiwm ESRC/Coleg Plismona'r Brifysgol ar gyfer Gostwng Troseddu yn seiliedig ar Dystiolaeth. Mae Troseddolegwyr a'r Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant ar ymchwil i droseddau a diogelwch, gan gynnwys grŵp Airbus, Cambrensis, EE, BT, a chwmni yswiriant Admiral. Yn Abertawe, mae'r Ganolfan Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg yn cynnal ymchwil empirig rhyngddisgyblaethol ar bolisi cyfiawnder ieuenctid, goruchwylio yn y gymuned, y diwydiant rhyw, ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau coler wen a seibrdroseddau. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn gartref i Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol (Cymru) yr ESRC, sy'n hwyluso mynediad at ddata gweinyddol cysylltiedig, dienw mewn amgylchedd diogel.

Bydd myfyrwyr sy'n dilyn trywydd '1+3' yn ymgymryd â gradd Meistr sy'n datblygu ehangder capasiti methodolegol yn ogystal â modiwlau arbenigol a thraethawd hir dan oruchwyliaeth sy'n canolbwyntio'n fwy penodol ar bwnc. Mae myfyrwyr yn gweithio o'r naill leoliad neu'r llall neu o'r ddau leoliad, gan weithio rhwng y ddau yn aml. Drwyddi draw, mae myfyrwyr yn dod ynghyd ar gyfer gweithdai ar y cyd, cyrsiau preswyl a chynadleddau blynyddol. Mae'r seminarau yn cynnwys y rhai rydym yn trefnu gyda Changen Cymru o Gymdeithas Troseddeg Prydain; mae'r cynadleddau yn cynnwys cynhadledd flynyddol Troseddeg Cymru (sy'n cael ei chynnal yng Ngregynog ers 2009) sydd bellach yn cynnwys diwrnod hyfforddi ôl-raddedig preswyl. Yn y digwyddiadau hyn ac eraill, mae myfyrwyr yn gweithio ac yn cyflwyno ochr yn ochr ag ymchwilwyr sefydledig.

Proffiliau myfyrwyr