Manylion llwybrau

Trosolwg o’r llwybr 
Mae troseddeg a’r gyfraith yn bynciau â chysylltiad agos sy’n canolbwyntio ar ddeall sylfeini a gweithrediad cyfiawnder mewn cymdeithas. Mae’r ymagwedd a gymerir at y gyfraith yn un gymdeithasol-gyfreithiol, ymagwedd a ddeilliodd, ar y cyd â throseddeg, o feirniadaeth ar ddadansoddiad cwbl ffurfiol o athrawiaeth gyfreithiol. Mae pob un o’r pynciau hyn yn cyfeirio dulliau’r gwyddorau cymdeithasol at broblemau go iawn ym myd y gyfraith a chyfiawnder, yn ogystal ag at brosesau’r wladwriaeth o fframio ymddygiad dynol a’i ymateb iddo. Mae pob pwnc yn creu effaith trwy ddiwygio meysydd megis deddfwriaeth, polisi dedfrydu, strategaethau plismona, a symudedd cymdeithas sifil. Cynhelir y cyfeiriadedd hwn gan repertoire damcaniaethol a rennir sy’n cynnwys astudiaethau mewn ymwybyddiaeth gyfreithiol, damcaniaeth actor-rhwydwaith, celfyddyd llywodraethu, a damcaniaeth labelu.  

Rydym yn cynnig cymuned ysgolheigaidd ledled Cymru gyda’r llwybr sy’n cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru. Yn y sefydliadau hyn cefnogir y llwybr gan ganolfannau ymchwil sy’n cynnwys Canolfan Ymchwil Llefydd Newid Hinsawdd (Bangor), Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Lab Gwyddor Data Cymdeithasol Canolfan y Gyfraith a Chymdeithas (Caerdydd), Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru (Abertawe), a Chanolfan Troseddeg y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch (De Cymru). Anogir partneriaethau ar draws y llwybr. 


Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol  
Mae gan staff ar y llwybr berthynas ag amrywiaeth eang o sefydliadau y tu allan i’r byd academaidd, sefydliadau y gellir tynnu arnynt i bartneru mewn prosiectau yn y dyfodol. Mae partneriaid diweddar wedi cynnwys Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Rhwydwaith Canolfannau’r Gyfraith, Rhwydwaith Cenedlaethol Oedolion Priodol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Public Law Project, y Royal United Services Institute, Uned Seiberdroseddu Heddlu De Cymru, Tech Against Terrorism, Senedd Cymru, a Phartneriaeth Cyfiawnder Adferol Cymru.  

 Mae amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi uwch ar gael ar draws y llwybr. Mae hyn yn cynnwys ymchwil gymdeithasol ddigidol, dulliau meintiol ac ansoddol ymchwil weithredu gyfranogol, ac effaith ymchwil ar gyfer polisi cyhoeddus a newid cymdeithasol. Mae hyfforddiant arbenigol yn cynnwys dulliau empirig a meintiol ar gyfer ymchwil gymdeithasol-gyfreithiol, dulliau ethnograffig a chymysg, damcaniaeth a dulliau diogelwch rhyngwladol, dulliau a moeseg mewn ymchwil ar seiberdroseddu a therfysgaeth, ac ymchwil gyfreithiol sy’n seiliedig ar ymarfer. 

Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 
Bydd caffael sgiliau a datblygu gyrfa yn cael eu hyrwyddo yn y sefydliadau sydd ar y llwybr ac ar eu traws. Ceir grwpiau trafod a grwpiau astudio sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr rannu gwybodaeth, ynghyd â sgaffaldiau i ddarparu cefnogaeth gan gyfoedion. Cynhelir gweithdai a chynadleddau lle caiff y myfyrwyr eu hannog i gyflwyno eu gwaith i’r corff academaidd ehangach. Mae cyfleoedd ar gyfer interniaethau a lleoliadau ar gael i fyfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen, gan gynnwys y tu allan i’r llwybr ac mewn cyd-destunau anacademaidd. 

Cysylltiadau
Prifysgol Caerdydd – Dr Dan Wincott (Gyfraith) – Dr Dan Wincott
Prifysgol Caerdydd – Dr Rachel Swann (Troseddeg) – Swannre@cardiff.ac.uk
Prifysgol Bangor – Dr Hayley Roberts – hayley.roberts@bangor.ac.uk
Prifysgol De Cymru – Dr Jenny Maher – jenny.maher@southwales.ac.uk
Prifysgol Abertawe – Dr Michelle Coleman (Gyfraith) – m.a.coleman@swansea.ac.uk
Prifysgol Abertawe – Dr Mike Harrison (Troseddeg) – m.g.harrison@swansea.ac.uk

Proffiliau myfyrwyr