Fy interniaeth yn Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru – Isabel Lang

Featured

Dyma fyfyriwr PhD YGGCC, Isabel Lang, yn ysgrifennu am ei lleoliad tri mis gyda’r tîm ymchwil Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn Ymchwil y Senedd

Rwy’ bob amser wedi rhoi pwys ar interniaethau a’u pwysigrwydd o ran cynnig cyfleoedd i rwydweithio, magu hyder a gwydnwch, a dysgu sgiliau newydd  

Dechreuodd fy angerdd tuag at ymchwil yn ystod fy ngradd israddedig yn y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle dysgais sut y gellir defnyddio ymchwil i ddeall pobl yn well a gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas. O ganlyniad i fy niddordeb arbennig mewn ymchwil cymdeithasol, gwnes gais am radd meistr mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Polisi Cymdeithasol) ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Ar ôl sicrhau cyllid am bedair blynedd arall o astudio gan y YGGCC trwy eu hysgoloriaeth ymchwil 1+3, fe wnaeth PhD ddilyn fy ngradd meistr, ac rwy’ yn ail flwyddyn y PhD nawr. Mae’n archwilio barn myfyrwyr prifysgol am les myfyrwyr a diwylliant prifysgolion gan ddefnyddio aml-ddulliau ac rwy’n gwneud fy ymchwil o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn gysylltiedig â DECIPHer

Rwy’ bob amser wedi rhoi pwys ar interniaethau a’u pwysigrwydd o ran cynnig cyfleoedd i rwydweithio, magu hyder a gwydnwch, a dysgu sgiliau newydd. Rwy’n ddiolchgar iawn bod ysgoloriaeth ymchwil 1+3 YGGCC yn cefnogi myfyrwyr i gymryd saib o’u PhD i ymgymryd ag interniaeth sy’n berthnasol i’w hymchwil, gan ymestyn eu cyllid PhD a’u dyddiad cyflwyno am gyfnod cyfatebol yr interniaeth. 

Cyfle delfrydol  

Roeddwn wedi cyffroi o weld interniaethau polisi tri mis UKRI yn cael eu hysbysebu, gan eu bod yn cyfuno fy niddordeb mewn ymchwil a pholisi, a daniwyd gan fodiwl ‘Cymwysiadau Ymchwil’ a astudiais yn ystod fy ngradd meistr, pan ddysgais yn fanylach am sut mae ymchwil yn cyfrannu tuag at ddatblygu a gwerthuso polisi, a sut gall ymchwil gael effaith gadarnhaol ar fywyd pobl.  

Roedd interniaethau polisi UKRI yn cynnig tua 125 o leoliadau mewn 25 o bartneriaid sy’n sefydliadau polisi dylanwadol amrywiol, a roddodd y cyfle i ennill golwg uniongyrchol i’r ffordd yr oedd polisïau’n cael eu datblygu ar draws y DU, a rôl ymchwil yn y broses hon. 

Fe wnaeth y broses ymgeisio am interniaeth gynnwys ysgrifennu briff polisi byr, y dewisais ei ysgrifennu ar ragnodi cymdeithasol, oherwydd bod gen i ddiddordeb yn y pwnc. Mae’n gysylltiedig ag ymchwil fy noethuriaeth ac roedd yn cael ei drafod yn aml yn Senedd Cymru bryd hynny, gydag ymchwilwyr y brifysgol yn darparu tystiolaeth ar y pwnc yn y Senedd, gan amlygu ei berthnasedd a’i bwysigrwydd. 

Amser cyfweliad… 

Ar ôl gwneud cais, ces i fy ngwahodd i gyfweliad panel ar-lein i asesu fy sgiliau priodol a’r wybodaeth sy’n ofynnol i wneud interniaeth Seneddol. Paratois i drwy ddarllen adnoddau amrywiol am bedair Senedd y DU a swyddogaethau swyddfeydd penodol o’u mewn, gan edrych yn benodol ar waith diweddar ar wnaed ar les ac addysg, a sut roedd hyn yn gysylltiedig â fy mhrofiadau, fy ngwybodaeth a f’ymchwil fy hun. 

Fe wnaeth y panel gynnwys tri chyfwelydd a oedd yn gweithio mewn gwahanol leoliadau seneddol ar draws y DU ac roeddent i gyd yn gyfeillgar iawn. Roedd llawer o gwestiynau’r cyfweliad yn gysylltiedig â phynciau tebyg i’r rhai a astudiais yn ystod fy ngradd meistr, fel gwahanol fathau o dystiolaeth ac effaith ymchwil.   

Rhan o’r tîm  

Pan gefais gynnig i ymgymryd â’r interniaeth, roeddwn yn teimlo syndod ac yn llawn cyffro. Roeddwn yn falch fy mod i wedi dewis ymgymryd â’r interniaeth yn Ymchwil y Senedd, oherwydd fy niddordeb mewn polisi ac ymchwil yng Nghymru, gan fod fy noethuriaeth yn canolbwyntio ar gyd-destun Cymru ac roeddwn i hefyd yn fyfyriwr yng Nghaerdydd.  

Yn Ymchwil y Senedd, cefais fy ngosod yn y tîm ymchwil Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gan gael fy nghroesawu yno’n syth, ac roeddwn i’n teimlo bod pawb yn gyfeillgar ac yn gefnogol iawn. Roeddwn i’n falch o ymuno â’r tîm hwn, oherwydd bod eu meysydd yn cyd-fynd yn dda â phwnc ymchwil fy noethuriaeth. 

Er mai’r prif faes y byddwn i’n canolbwyntio arno ar gyfer fy interniaeth byddai pynciau Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, roedd hyblygrwydd os oeddwn i’n dymuno cymryd rhan mewn pynciau ymchwil eraill a chyda thimau eraill, hefyd. 

Mae’r tîm ymchwil Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnwys pedwar ymchwilydd sy’n gwneud amrywiaeth eang o waith ar bynciau gwahanol yn gysylltiedig â phlant, pobl ifanc ac addysg, o ofal plant i wasanaethau prifysgol. Er enghraifft, mae’r ymchwilwyr yn ysgrifennu papurau briffio ar wahanol bynciau, gan grynhoi tystiolaeth mewn ffordd gywir a diduedd, i aelodau’r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei defnyddio mewn cyfarfodydd pwyllgor.  

Mae’r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnwys chwe aelod o bleidiau gwahanol sy’n cael eu cynrychioli yn y Senedd, sy’n ystyried polisi a deddfwriaeth ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd sy’n gysylltiedig â phlant, pobl ifanc ac addysg, ynghyd ag iechyd, gwasanaethau gofal, a gofal cymdeithasol yn gysylltiedig â phlant a phobl ifanc. 

Mae pwyllgorau eraill y Senedd a thimau ymchwil eraill sy’n canolbwyntio ar bynciau eraill, fel trafnidiaeth neu’r economi, sy’n aml yn gorgyffwrdd â’r meysydd y mae’r tîm ymchwil a’r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymdrin â nhw, fel cyllid addysg neu drafnidiaeth i brentisiaid ac, felly, mae ymchwilwyr weithiau’n gweithio ar draws pwyllgorau gwahanol. Er mai’r prif faes y byddwn i’n canolbwyntio arno ar gyfer fy interniaeth byddai pynciau Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, roedd hyblygrwydd os oeddwn i’n dymuno cymryd rhan mewn pynciau ymchwil eraill a chyda thimau eraill, hefyd. 

Baich gwaith amrywiol

Trefnwyd yr interniaeth ar ffurf wythnos weithio 37.5 awr hyblyg. Nid oedd disgwyl i fi ddod i mewn i’r swyddfa bob dydd, yn enwedig gan fy mod i’n byw ym Mryste, felly penderfynais gymudo i’r swyddfa bob dydd yn yr wythnos gyntaf, a oedd yn llawn gweithgareddau a chyfarfodydd sefydlu, ac yna ddiwrnod yr wythnos fel arfer ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor am weddill yr interniaeth. Roeddwn i’n hoffi bod yr interniaeth yn rhoi cyfuniad o weithio gartref a mynd i’r swyddfa, i brofi manteision y ddau.  

Er fy mod yn gweithio gartref gan amlaf, roedd fy nhîm yn cadw mewn cysylltiad drwy’r amser, gyda chyfarfodydd ar-lein yn ddyddiol i ddal i fyny a chael sgwrs. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn o ran dysgu beth roedd yr ymchwilwyr eraill yn gweithio arno ac roedd yn golygu fy mod i’n teimlo bod cefnogaeth dda gen i bob amser.  

Trwy gydol yr interniaeth, fe wnaeth fy mhrif dasgau gynnwys: 

  • Ysgrifennu ymatebion i ymholiadau gan Aelodau’r Senedd neu eu staff cymorth ymchwil, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o gwestiynau’n ymwneud â phlant, pobl ifanc ac addysg, lle’r oedd aelodau’n disgwyl ymateb diduedd, wedi’i lywio gan dystiolaeth, gan ymchwilydd perthnasol. 
  • Ysgrifennu briff er mwyn i’r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg graffu ar fil aelod preifat ar addysg awyr agored a, hefyd, helpu i ysgrifennu briff er mwyn i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig graffu ar Weinidog yr Economi. Hefyd, ysgrifennais friff i gyfarfod o’r pwyllgor deisebau ar ddeiseb ar yr hawl i ofal plant yng Nghymru, a grëwyd gan aelod o’r cyhoedd ac a gafodd lawer o bleidleisiau gan y cyhoedd er mwyn ei drafod yn y Senedd. Cyhoeddwyd y briff hwn ar-lein a rhoddodd wybodaeth gefndir ar yr hawl i ofal plant a throsolwg o’r ddeiseb. 
  • Ysgrifennu erthygl a ffeithlen gyfansoddol ar yr hawl i ofal plant yng Nghymru a Lloegr. 

Diddorol oedd gweld sut roedd gwahanol bobl yn rhoi tystiolaeth, o athrawon prifysgol i swyddogion y llywodraeth.  

  • Anfon e-bost wythnosol i’r tîm ymchwil Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gan gynnwys digwyddiadau diweddar perthnasol y Senedd a rhai i ddod, a’i drafod yn y cyfarfodydd wythnosol. 
  • Mynychu cyfarfodydd wythnosol y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ‘fynediad at addysg a gofal plant ar gyfer plant a phobl ifanc anabl’, sef y prif bwnc ymchwilio yr oedd y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei ystyried adeg fy interniaeth. Fe wnaeth hyn gynnwys gwahanol randdeiliaid, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd (e.e. pobl ifanc neu rieni), athrawon, staff cymorth, ymchwilwyr prifysgol, gweithwyr proffesiynol/arbenigwyr/staff mewn sefydliadau perthnasol gwahanol, oll yn rhoi tystiolaeth a’u barn ar y pwnc hwn i’r pwyllgor  Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. O ganlyniad i hyn, roeddwn wedi gallu arsylwi amrywiol gyfarfodydd y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymdrin â gwahanol bynciau’n gysylltiedig â’r ymchwiliad. Diddorol oedd gweld sut roedd gwahanol bobl yn rhoi tystiolaeth, o athrawon prifysgol i swyddogion y llywodraeth.  
  • Mynychu cyfarfodydd tîm mewnol, wythnosol Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gan gynnwys y clerc, y dirprwy glerc, cynghorwyr cyfreithiol, ymchwilwyr a’r rheolwr cysylltu â dinasyddion, i drafod gwaith diweddar a gwaith ar ddod y pwyllgor a’r tîm ymchwil Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a gwybodaeth a digwyddiadau perthnasol. 
  • Mynychu gweithdy i holl ymchwilwyr y Senedd, lle cawsom anerchiad gan ohebydd newyddion BBC Cymru am ei rôl, a oedd yn addysgiadol iawn ac a roddodd gipolwg i’r hyn y gallai gyrfa ymchwil yn y BBC ei gynnwys.  

Ar y cyfan, roedd hi’n braf cael y cyfle i gymryd rhan mewn gwahanol bethau a chynhyrchu darnau gwahanol o waith, ac roedd hi’n ddiddorol archwilio pynciau nad oeddwn wedi ymchwilio’n fanwl iddynt o’r blaen, fel yr hawl i ofal plant. Hefyd, fe wnes i fwynhau ymarfer arddulliau ysgrifennu gwahanol i’r hyn roeddwn i wedi bod yn eu defnyddio yn y byd academaidd, gan fod erthyglau’r Senedd yn crynhoi gwybodaeth yn fyr iawn ac maent yn cael eu hysgrifennu mewn arddull hawdd ei darllen a hygyrch i berson lleyg.  

Beth ddysgais i? 

Trwy’r interniaeth hwn, rwy’ wedi dysgu am bwysigrwydd cyflwyno tystiolaeth yn gryno ac yn hygyrch, a sut caiff tystiolaeth ei defnyddio i lywio polisi a chraffu arno. Hefyd, pwysigrwydd cydweithredu rhwng gwahanol grwpiau o bobl (e.e. y cyhoedd, ymchwilwyr a staff mewn sefydliadau trydydd sector) i ddatblygu tystiolaeth y gellir ei defnyddio i wella polisi ac ymarfer. Mae’r wybodaeth hon yn amhrisiadwy i fy noethuriaeth a thu hwnt, a bydd yn dylanwadu ar sut rwy’n casglu data ac yn cyflwyno canfyddiadau fy ymchwil fy hun. 

Roedd rhannu profiad yr interniaeth gydag eraill mewn sefyllfa debyg a chlywed beth roedden nhw’n ei wneud wrth weithio ar bynciau gwahanol yn ddymunol iawn ac wedi rhoi tawelwch meddwl i mi. 

Mae uchafbwyntiau o’r interniaeth yn cynnwys bod yn rhan o dîm hyfryd ac ysbrydoledig, dod i adnabod ymchwilwyr y Senedd a beth oedd eu rôl, ac arsylwi cyfarfydd pwyllgor cyhoeddus a phreifat. Hefyd, dod i adnabod dau fyfyriwr PhD arall o wahanol feysydd pwnc a phrifysgolion a oedd yn interniaid mewn gwahanol dimau ymchwil y Senedd. Roedd rhannu profiad yr interniaeth gydag eraill mewn sefyllfa debyg a chlywed beth roedden nhw’n ei wneud wrth weithio ar bynciau gwahanol yn ddymunol iawn ac wedi rhoi tawelwch meddwl i mi. 

Mae fy nghynlluniau yn y dyfodol yn cynnwys cynnal y rhwydweithiau greais i yn ystod yr interniaeth hon trwy gydol ymchwil fy noethuriaeth a’r tu hwnt, ac anelu at ddefnyddio canfyddiadau fy PhD mewn rhyw ffordd, fel hysbysu’r cyhoedd a llywio polisi ac ymarfer yn y dyfodol. Hefyd, gobeithio, ymgymryd ag interniaeth arall i ennill mwy o brofiad a rhwydweithio gyda myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. 

Heb os, byddwn i’n argymell i fyfyrwyr eraill, yn enwedig myfyrwyr sydd â diddordeb mewn pynciau tebyg, y dylent wneud cais am interniaethau, fel cynllun interniaethau polisi UKRI

Aimee Morse’s Wales Centre for Public Policy Internship

Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2021, bu myfyriwr y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol, Aimee Morse (Cynllunio Amgylcheddol, Prifysgol Swydd Gaerloyw). yn ymgymryd ag interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gan weithio ar brosiect o’r enw ‘Cydweithio a gweithredu polisi ar lefel leol yng Nghymru: gwerthusiad astudiaeth achos o grŵp ffermwyr yng Ngogledd Cymru’.  Dyma fyfyrdodau Aimee ar y profiad. Parhau I ddarllen