Cynhadledd Galluoedd a Gyrfaoedd DTP Cymru ESRC 2022: Dulliau ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol Beirniadol

Trwy'r Dydd, Dydd Mercher 27 Ebrill 2022 - Dydd Iau 28 Ebrill 2022

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r rhaglen ar gyfer ein Cynhadledd Galluoedd a Gyrfaoedd DTP Cymru ESRC.

Rydym yn canolbwyntio eleni ar ‘Ddulliau ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol Beirniadol’, gan adeiladu ar waith ein cymuned DTP ar allgáu ac amrywiaeth yn y gymdeithas ehangach ac yn yr academi.

Bydd academyddion blaenllaw, yn ogystal ag ymchwilwyr doethurol ac ôl-ddoethurol yn ymuno â ni, gan rannu eu cyflawniadau a’u mewnwelediadau ar fethodoleg ac ymarfer ymchwil. Bydd darlithoedd a gweithdai yn caniatáu i’n holl fyfyrwyr wella eu sgiliau eu hunain ac ehangu eu dulliau o ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol.

Bydd y gynhadledd yn cynnig ymgysylltiad bywiog i bob myfyriwr, gyda phynciau’n cynnwys hil, rhyw a rhywioldeb, anabledd, iechyd plant ac anghydraddoldeb addysgol. Drwy seminarau, darlithoedd a thrafodaethau rhwng cymheiriaid, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i ystyried a thrafod sut y gallant gyfoethogi eu gwaith eu hunain gan ddefnyddio dulliau beirniadol, ymgysylltu a chydweithio â’r cymunedau y maent yn ymchwilio iddynt a gyda nhw.

Mae’n anrhydedd i ni gan y bydd y Barnwr Ray Singh CBE, Cadeirydd Cyngor Hil Cymru yn agor y gynhadledd. Ein prif siaradwr nodedig fydd yr Athro Sara Ryan, Prifysgol Rhydychen, arloeswr dulliau ymchwil ansoddol ar iechyd a gofal cymdeithasol gyda ffocws penodol ar anabledd dysgu ac awtistiaeth.

Bydd y gynhadledd ar gael i fyfyrwyr beth bynnag fo’r cam y maent wedi’i gyrraedd yn eu taith DTP, a beth bynnag fo’u pwnc neu ddisgyblaeth. Mae’n cynnwys sesiynau ar weithio gyda ‘data mawr’, cynnal cyfweliadau gydag ysgogiadau trydydd gwrthrych, a defnyddio methodolegau cynhwysol megis ethnograffeg, ymchwil weithredu cyfranogol a chyd-gynhyrchu.

Bydd sesiynau trafod myfyrwyr yn rhoi cyfle i rannu profiadau gyda dulliau ymchwil ansoddol, meintiol a chymysg, ac i ddysgu gwersi ar gyfer cyflawni effaith gymdeithasol ehangach gyda’u hymchwil.

Daw’r gynhadledd i ben gyda chyfarfod cyffredinol, lle bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fyfyrio ar eu profiadau a hwythau’n fyfyrwyr ESRC ac i gyfrannu at gynllunio a gwaith DTP Cymru ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Cynhelir y gynhadledd ar-lein ar 27-28 Ebrill.  Mae’r Gynhadledd yn rhad ac am ddim ac yn agored i holl fyfyrwyr DTP Cymru.  Mae manylion llawn ar gael yn rhaglen y Gynhadledd.

 

I archebu eich lle, ewch i Eventbrite.

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â DTP Cymru drwy enquiries@walesdtp.ac.uk