Dyddiad Cau: Dydd Gwener 30 Hydref 2020
Mae DTP Cymru yn falch o gynnig pum cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, i weithio ar brosiectau penodol ar ystod o bynciau gan gynnwys Addysg, gwasanaethau cyhoeddus, cyfiawnder cymdeithasol a thrais yn erbyn menywod. Mae’r interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan DTP ESRC Cymru (heblaw am y rheiny sydd ymhen tri mis cyntaf neu olaf eu cyfnod fel myfyriwr). Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n cael eu cynnal o bell, gan ddechrau ym mis Ionawr 2021, am gyfnod o 3 mis amser llawn neu gyfnod cyfatebol yn rhan-amser. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael estyniad o 3 mis at eu PhD (cyfwerth â hyd yr interniaeth).
Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfleoedd i greu effaith drwy gyfrannu at waith y llywodraeth, y cyfle i feithrin perthnasau y tu hwnt i’r byd academaidd, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn amgylchedd polisi.
Mae disgrifiadau llawn o’r prosiect ar gael yn y dogfennau atodedig:
- Meithrin gallu ymchwil ym maes addysg yng Nghymru
- Defnyddio astudiaeth Understanding Society i edrych ar newidiadau cymdeithasol yn ystod pandemig COVID-19
- Cyflog cynghorwyr ac ymgysylltiad dinasyddion
- Gwerthusiad o ddull system gyfan y Cynllun Braenaru Merched a gwasanaeth ymyrraeth gynnar 18-25 (2)
Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn hanner dydd ar y dyddiad cau.