Manylion llwybrau

Mae polisi cymdeithasol yn gwneud cyfraniadau pwysig at ddadleuon a dealltwriaeth gyfoes drwy gymhwyso gwybodaeth wyddonol, dadansoddiad trylwyr a myfyrio’n feirniadol i amrywiaeth eang o faterion cymdeithasol. Mae myfyrwyr doethuriaeth ar y llwybr hwn yn elwa ar y cyfuniad unigryw o waith damcaniaethol blaengar, astudiaethau empirig, cyd-destun polisi, ac arloesi ac arbenigedd methodolegol. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym arbenigedd ymchwil helaeth mewn amrywiaeth o feysydd sylweddol gan gynnwys: cymdeithas sifil a llywodraethu; gwaith, tlodi ac anghydraddoldeb; marchnadoedd llafur; cynaliadwyedd a’r amgylchedd.

Mae diwylliant ymchwil bywiog yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ac mae myfyrwyr ymchwil yn rhan hanfodol o hynny. Mae gan yr Ysgol enw da iawn am gyhoeddiadau rhyngwladol wedi eu hadolygu gan gymheiriaid; mae’n gartref i sawl cyfnodolyn gwyddonol cymdeithasol amlddisgyblaethol ac sy’n canolbwyntio ar ddulliau. Mae myfyrwyr polisi cymdeithasol yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd grŵp ymchwil Polisi, Tlodi a Safonau Byw, sy’n lle pwysig i staff a myfyrwyr polisi cymdeithasol gwrdd a thrafod a diddordebau cyffredin a gwaith sydd ar y gweill. Mae myfyrwyr ar y llwybr polisi cymdeithasol hefyd yn ymgysylltu â staff a myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill fel mater o drefn, ac yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o ganolfannau ymchwil, grwpiau ymchwil a fforymau eraill sy’n perthyn i’r Ysgol. Mae’r ysgol yn cefnogi ac yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i’r garfan ddoethurol, gan gynnwys cinio blynyddol ymchwil ôl-raddedig (digwyddiad cymdeithasol a dathliad o gyflawniadau doethurol); cynhadledd flynyddol myfyrwyr doethurol (gan gynnwys sesiynau papur a cystadleuaeth posteri); y caffi ôl-raddedig sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr, a grwpiau darllen amrywiol sy’n cyfarfod unwaith y mis i drafod amrywiaeth o bynciau sy’n gysylltiedig ag ymchwil cymdeithasol, gwleidyddiaeth a diwylliant.

Mae myfyrwyr ar y llwybr ‘1+3’ yn cwblhau’r modiwl arbenigol ‘Dinasyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol’ fel rhan o raglen Meistr Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, tra’n datblygu ehangder o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau fel rhan o’r radd Meistr ryngddisgyblaethol hon. Mae hyfforddiant pwnc-benodol a datblygu myfyrwyr yn parhau drwy gydol y ddoethuriaeth gydag amrywiaeth eang o grwpiau trafod a darllen, sesiynau o gwmpas y bwrdd, cyfres seminar a gweithdai dadansoddi data.

Proffiliau myfyrwyr